Am 12.27yb, ddydd Llun, Tachwedd 10fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Canol Abertawe a Threforys i ddigwyddiad ym Mhenlan yn Abertawe.
Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar beiriant sychu dillad mewn tŷ allan. Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben i ddiffodd y tân ac un camera delweddu thermol ac un ffan awyru pwysedd positif i fonitro’r lleoliad ac i glirio mwg.
Ar ôl diffodd y tân, ymwelodd criwiau ag eiddo cyfagos i ddosbarthu cyngor a gwybodaeth diogelwch rhag tân yn y cartref. Gadawodd y criwiau am 1.34yb.