23.09.2024

Digwyddiad: Tân yn Hen Adeilad Ysgol Gynradd Gorseinon

Ddydd Gwener, Medi 20fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorseinon, Pontarddulais, Treforys, Canol Abertawe, Port Talbot a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad yn hen adeilad Ysgol Gynradd Gorseinon.

Gan Steffan John



Am 3.04yb ddydd Gwener, Medi 20fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorseinon, Pontarddulais, Treforys, Canol Abertawe, Port Talbot a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad yn hen adeilad Ysgol Gynradd Gorseinon.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn rhandy oedd yn mesur tua 15 metr wrth 30 metr.  Ar anterth y digwyddiad, roedd pedair injan dân ac un tancer dŵr yn y digwyddiad, gyda chriwiau yn gweithio gydag asiantaethau partner gan gynnwys Heddlu De Cymru a’r Awdurdod Lleol.

Defnyddiodd criwiau ddau brif chwistrell, dwy chwistrell olwyn piben, dau gyfarpar anadlu ac offer bach i ddiffodd y tân a’i atal rhag lledaenu i brif adeilad yr ysgol.  Dymchwelodd to’r rhandy oherwydd y tân ac nid yw’r strwythur sy’n weddill yn ddiogel.  Cafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.

Gadawodd y criwiau am 8.03yh.

Lleihau Tanau Bwriadol

Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ddifrifol sy’n gallu achosi difrod enfawr a hyd yn oed arwain at golli bywydau. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal nifer o raglenni i atal cynnau tân a lleihau achosion o danau bwriadol er mwyn gwarchod y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

I wybod mwy ac i wneud cais am un o’n rhaglenni ewch yma.

 





Images above by Calum Hearn.







Images above by Liam Matthews Photography.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf