03.07.2024

Digwyddiad: Tancer Llaeth Wedi Troi Drosodd yn Arberth

Ddydd Llun, 1 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Arberth, Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf eu galw i ddigwyddiad ar y B4314 yn Arberth.

Gan Steffan John



Am 3.49pm ddydd Llun, 1 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Arberth, Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf eu galw i ddigwyddiad ar y B4314 yn Arberth.

Ymatebodd y criwiau i dancer llaeth oedd wedi troi drosodd yn cynnwys tua 20,000 litr o laeth. Cynorthwyodd y criwiau'r gyrrwr allan o'r cerbyd a chafodd ei asesu gan barafeddygon ar y safle a'i gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ffordd. Fe rwystrodd criwiau a ffermwr lleol lif y llaeth a oedd yn gollwng o'r cerbyd rhag mynd i mewn i'r ddyfrffos.

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu hysbysu am y digwyddiad ac aeth y cwmni llaeth i’r lleoliad i drosglwyddo’r llaeth oedd yn weddill o’r tancer oedd wedi troi drosodd i un arall. Roedd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn bresennol a chaewyd y ffordd yn ystod y digwyddiad ac adfer y cerbyd.

Gadawodd criwiau GTACGC y lleoliad am 7.33pm.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf