28.11.2024

Digwyddiad 'Targedu Gwaith Atal'

Ddydd Mercher, 20 Tachwedd 2024 cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ddigwyddiad ‘Targedu Gwaith Atal’ ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn Stadiwm Swansea.com.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, 20 Tachwedd 2024 cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ddigwyddiad ‘Targedu Gwaith Atal’ ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn Stadiwm Swansea.com.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys wyth cyflwyniad gyda siaradwyr gwadd a gweithdai a oedd yn caniatáu i gyfranogwyr drafod ystod o bynciau ym maes atal fel Rhannu Gwybodaeth Bersonol, Sicrhau'r Effaith Fwyaf Bosibl trwy Bartneriaethau a llwybrau atgyfeirio, Diogelu pobl agored i niwed a llawer mwy. Roedd y digwyddiad yn gyfle perffaith i'n hasiantaethau partner drafod a hyrwyddo’r arfer gorau ar sut i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas KFSM:

"Roedd y digwyddiad Targedu Gwaith Atal yn llwyddiant ysgubol. Amlygodd yr adborth cychwynnol a gafwyd gan y rhai a oedd yn bresennol bod y cyflwyniadau a'r gweithdai wedi bod yn ysgogol ac yn fuddiol o ran datblygu rhwydweithiau rhwng asiantaethau a dysgu mwy am sut mae partneriaid yn darparu eu gwasanaethau. Roedd yna fwrlwm amlwg yn yr ystafell, a hynny oherwydd yr ymwneud a’r rhyngweithio gan y rhai a fu’n bresennol - diolch i bawb."



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o gydweithio â'n partneriaid i greu cymunedau mwy diogel drwy ddigwyddiadau fel y rhain. Trwy annog deialog agored, rhannu arbenigedd, a chryfhau partneriaethau, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth go iawn i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Estynnwn ein diolch i bawb a gymerodd ran ac a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y momentwm hwn yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf