08.01.2025

Digwyddiad: Tynnu Strwythur Peryglus yn Aberteifi

Ddydd Iau, Ionawr 2ail, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Fawr Aberteifi.

Gan Steffan John



Am 1.24yp ddydd Iau, Ionawr 2ail, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Fawr Aberteifi.

Ymatebodd y criwiau i strwythur peryglus dros lwybr cyhoeddus yng nghanol y dref.  Tynnodd y criwiau ffenest o ail lawr yr adeilad a oedd wedi pydru ac a oedd wedi dod yn rhydd yn ystod y tywydd stormus diweddar.  Defnyddiodd y criwiau peiriant ysgol trofwrdd Gorsaf Dân Hwlffordd ac offer bach i dynnu’r ffenestr.  Gadawodd y criwiau am 3.13yp.





Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf