Profwyd gwres a chynnwys lleithder y bêls, gyda Swyddog Tactegol arall yn ailymweld â’r eiddo yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ynghyd â chriw o Orsaf Dân Llambed, i fonitro’r bêls ac i gynnal Ymweliad Diogel ac Iach a oedd yn cynnwys gosod larymau mwg. Yn ystod yr ymweliadau hyn, cafodd 20 o fêls eu tynnu o'r ysgubor gyda’r bwriad i ailedrych ar y sefyllfa y diwrnod canlynol.
Yn ystod yr ail ymweliad, canfuwyd bod y bêls wedi cyrraedd tymheredd critigol. Roedd angen tynnu tua 100 o fêls o'r sgubor a chafodd criw Llambed eu hanfon eto fel rhagofal diogelwch rhag ofn iddynt fynd ar dân. Parhaodd y criw i fonitro tymheredd y bêls, â mwg yn dod ohonynt.
Diogelwch Tân ar Fferm
Mae cyfran fawr o ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i dapestri o gymunedau gwledig ac amaethyddol. Yn dilyn y digwyddiad hwn, mae GTACGC yn cyhoeddi nodyn atgoffa a chyngor ar ddiogelwch tân fferm i aelodau o’r cymunedau ffermio:
- Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM
Mae GTACGC yn falch o gynnig Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM. Os oes gennych bryderon ynghylch tymheredd eich bêls gwair, cysylltwch â ni i ofyn am wiriad AM DDIM o dymheredd a chynnwys lleithder eich bêls gwair, gan ddefnyddio offer arbenigol. Yn dibynnu ar y darlleniadau a gawn, byddwn wedyn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun i reoli'r risgiau cysylltiedig. I archebu ymweliad am ddim, ffoniwch 0800 169 1234.
Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
- Ni ddylai bêls gwair wedi'u storio gynnwys lleithder sy'n fwy na 22%.
Mae bêls gwair sydd â chynnwys lleithder o 22% neu uwch yn peri risg o gynyddu mewn gwres ar ôl eu pentyrru, gan arwain at orboethi a hylosgiad digymell o bosibl.
- Dylai tymheredd y bêls gwair fod yn is na 35°C cyn eu casglu o’r cae i'w storio.
Gall bêls gwair â thymheredd uwch na 35°C barhau i gynhyrchu eu gwres eu hunain i bwynt lle gall hylosgiad digymell ddigwydd.
- Cyngor ar Storio Bêls Gwair
Lle bo modd, dylid lleoli pentyrrau ar wahân, yn ddigon pell o adeiladau fferm eraill, yn enwedig adeiladau da byw. Cadwch bentyrrau i faint rhesymol, ymhell oddi wrth ei gilydd ac yn sych. Ceisiwch osgoi storio gwrtaith, cemegau, silindrau nwy, tractorau a pheiriannau eraill mewn ysguboriau sy'n cynnwys bêls gwair. Sicrhewch fod yr holl offer trydanol a gwifrau'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
- Arwyddion o fêls gwair yn gorboethi
Gall arwyddion o fêls gwair yn gorboethi gynnwys afliwio neu frownio mewn mannau, pentyrrau y gwelir eu bod yn ‘stemio’ yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos, presenoldeb arogl melys neu orfelys a gwellt yn troi’n ffurf tebyg i dybaco.
Cyngor a Chefnogaeth
Mae gan y Gwasanaeth amrywiaeth o ffyrdd i helpu ffermwyr a thirfeddianwyr i ddiogelu eu heiddo a’u da byw rhag bygythiad tân ac i gynllunio ymlaen llaw drwy:
- Sicrhau bod eich Asesiad Risg Tân Fferm yn gyfredol
- Datblygu ‘Blwch Tân’ wrth fynedfa’r eiddo sy’n cynnwys manylion megis lleoliad y cyflenwadau dŵr, map o’r tir, rhestr o dda byw a lleoliadau deunyddiau peryglus
- Osgoi storio deunydd fflamadwy gyda cherbydau neu dda byw
- Ystyried a all injan dân gyrraedd pob rhan o'ch eiddo, gall injan safonol bwyso mwy na 12 tunnell, felly gall pydewau a gridiau gwartheg fod yn broblem.
- Gellir defnyddio criwiau arbenigol i achub anifail o uchder, dŵr a thir ansefydlog. PEIDIWCH BYTH â rhoi eich hun mewn perygl, os bydd angen achub eich da byw, ffoniwch 999.
Am ragor o wybodaeth, ewch yma.