Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dibynnu ar Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad i amddiffyn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gyda 75% o Orsafoedd Tân wedi'u criwio'n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.
Yn ogystal ag ymrwymiad ac ymroddiad Diffoddwyr Tân Ar Alwad, mae'r Gwasanaeth hefyd yn dibynnu ar amrywiaeth o gyflogwyr sy'n caniatáu i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad adael eu prif gyflogaeth i fynd i alwadau brys.
Un cyflogwr o'r fath yw Winncare UK, sydd â safle yn Llanandras ym Mhowys. Mae'r Rheolwr Criw Ar Alwad, Rob Williams, yn cydbwyso ei swyddi gyda Winncare UK a chyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).
Yn ystod ymweliad diweddar â safle Winncare UK yn Llanandras, cafodd personél GTACGC daith dywys ddifyr o amgylch y safle a phrosesau gweithgynhyrchu rhai o'i gynhyrchion. Yn ogystal â chefnogi'r Gwasanaeth Tân ac Achub drwy ganiatáu i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad ymateb i alwadau brys, mae Winncare UK hefyd yn cynhyrchu offer y mae Diffoddwyr Tân yn eu defnyddio mewn rhai digwyddiadau, fel Clustog Godi Mangar Elk.