13.08.2024

Diwrnod Agored Gorsaf Dân Aberystwyth

Ddydd Sadwrn, 10 Awst, cynhaliodd aelodau criw Gorsaf Dân Aberystwyth Ddiwrnod Agored Blynyddol yr Orsaf.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, 10 Awst, cynhaliodd aelodau criw Gorsaf Dân Aberystwyth Ddiwrnod Agored Blynyddol yr Orsaf.

Mae Diwrnod Agored yr Orsaf Dân, sy’n cael ei fynychu a’i gefnogi’n dda bob blwyddyn, yn gyfle i’r criw ymgysylltu â’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu.  Mae Aberystwyth yn dref prifysgol a glan môr gyda phoblogaeth o ychydig dros 10,000 o bobl, sy'n cynyddu yn ystod misoedd yr haf oherwydd ymwelwyr a thwristiaid.

Cafodd ymwelwyr â Diwrnod Agored yr Orsaf Dân gyfle i gwrdd â'u diffoddwyr tân lleol, archwilio'r peiriannau tân a'r offer diffodd tân, gan gynnwys hen dryc Bedford, a dysgu mwy am ddiogelwch tân.  Roedd y Diwrnod Agored hefyd yn cynnwys amrywiaeth o arddangosiadau a digon o adloniant i blant a theuluoedd, gyda chastell bownsio a chyfle i wisgo i fyny fel diffoddwr tân.  Fe wnaeth aelodau'r criw hefyd wisgo’u ffedogau i baratoi a gweini bwyd barbeciw.

Cododd Diwrnod Agored yr Orsaf dros £1,000 a fydd yn cael ei roi i elusennau lleol.





Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf