15.07.2024

Roedd Diwrnod Agored Port Talbot yn llwyddiant ysgubol

Ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf 2024, cynhaliodd Gorsaf Dân Port Talbot eu Diwrnod Agored blynyddol.

Gan Lily Evans


Ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf 2024, cynhaliodd Gorsaf Dân Port Talbot eu Diwrnod Agored blynyddol.

Roedd Diwrnod Agored Port Talbot yn llwyddiant ysgubol. Cafodd ymwelwyr gyfle i edrych o gwmpas peiriannau tân, gwylio arddangosiadau gan y criw yn ogystal â chwrdd ag aelodau o Wylwyr y Glannau a oedd yn bresennol. Roedd digon o weithgareddau hwyliog i ddiddanu’r plant, a phawb yn mwynhau ‘socian y diffoddwr tân’.

Fe ymddangosodd masgot y Gwasanaeth, Sbarc, ar gyfer y lluniau hefyd, ar ôl cael ei achub o adeilad oedd ar dân yn ystod arddangosiad chwilio ac achub gyda'r criw.





Mae Diwrnodau Agored mewn gorsafoedd tân yn gyfle perffaith i aelodau'r cyhoedd ymweld â'u gorsaf dân leol, cwrdd â'r criw a dysgu mwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Mae hefyd yn ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu ac yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith pwysig a wneir gan y Gwasanaeth Tân.

Gallwch ddarganfod pryd y cynhelir ein Diwrnod Agored nesaf mewn gorsaf dân yma:

Gwasanaeth Tân ac Achub CGC / MAWW Fire and Rescue | Facebook

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf