10.02.2024

Diwrnod Dangos a Dweud Llandeilo yn llwyddiant ysgubol!

Cynhaliodd Gorsaf Dân Llandeilo y cyntaf o dri diwrnod recriwtio 'Dangos a Dweud' ddydd Sadwrn 10 Chwefror.

Gan Rachel Kestin



Cynhaliodd Gorsaf Dân Llandeilo y cyntaf o dri diwrnod recriwtio 'Dangos a Dweud' ddydd Sadwrn 10 Chwefror.

Yn ystod y dydd, cafodd darpar recriwtiaid newydd gyfle i gwrdd â'r criw a thrafod y gofynion a'r broses fynediad ar gyfer dod yn ddiffoddwr tân ar alwad. Cafodd y rhai a oedd â diddordeb y cyfle i gael profiad o ddefnyddio rhai o'r offer Prawf Pwynt Mynediad, a chael cyngor diogelwch hanfodol gan Elinor Goldsmith, Swyddog Addysg Ysgolion GTACGC.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, gyda phum darpar ymgeisydd newydd yn mynegi diddordeb mewn ymuno â'r Gwasanaeth. Daeth Maer Llandeilo, Christoph Fischer, i ymweld â’r orsaf hyd yn oed!

Diolch yn fawr iawn i'r Rheolwr Gwylfa David Lewis a gweddill y criw yng ngorsaf Llandeilo, gan gynnwys Dan Ward ac Emyr Davies, Swyddogion Cyswllt yr Orsaf, ac Elinor Goldsmith a'r cyn-Reolwr Gwylfa John Herman am eu cymorth trwy gydol y dydd.

Bydd y ddau ddigwyddiad sy'n weddill yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn, 16 Mawrth a dydd Sadwrn, 20 Ebrill, felly os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ddod yn ddiffoddwr tân ar alwad yng ngorsaf Llandeilo, galwch heibio oherwydd byddem wrth ein bodd yn eich gweld!

Gallwch hefyd ymweld â'n tudalennau digwyddiadau ar Facebook i fynegi eich diddordeb – https://fb.me/e/4bJ4qyZuh  Yn ogystal â'n tudalen Recriwtio Diffoddwyr Tân ar Alwad - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (mawwfire.gov.uk).

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi.

 

 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf