20.11.2025

Diwrnod Hyfforddi Diogelwch Tân Busnesau

Ddydd Mercher, 12 Tachwedd, daeth tîm Diogelwch Tân Busnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) at ei gilydd ar gyfer diwrnod o hyfforddiant, datblygu a chydnabyddiaeth.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, 12 Tachwedd, daeth tîm Diogelwch Tân Busnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) at ei gilydd ar gyfer diwrnod o hyfforddiant, datblygu a chydnabyddiaeth.

Roedd y tîm yn falch iawn o groesawu Antony Gardner, Arolygydd Diogelwch Tân Safleoedd y Goron yng Nghymru i'r hyfforddiant. Rhannodd Antony ambell gipolwg gwerthfawr ar rôl Arolygydd Safleoedd y Goron (Cymru).

Roedd y diwrnod hyfforddi yn gyfle gwerthfawr i wella sgiliau adrannol ac i gydnabod a dathlu datblygiad proffesiynol unigol o fewn y tîm hefyd.

Roedd Rheolwr y Grŵp David Latham yn falch o gyflwyno tystysgrifau i’r Rheolwr Gorsaf Peter Phillips, y Rheolwr Gorsaf Neil Stephens a'r Rheolwr Gwylfa Lee Hopkins am gyflawni cymwysterau’n llwyddiannus mewn amrywiaeth o gyrsiau Diogelwch Tân Busnesau.

Diolch i'r holl siaradwyr a'r staff a ddaeth a'i wneud yn ddiwrnod cadarnhaol a phleserus.




Erthygl Flaenorol