15.10.2025

Diwrnod Shwmae Su'mae 2025

Cynhelir Diwrnod Shwmae Su'mae, sy'n ddathliad cenedlaethol o'r Gymraeg, dan arweiniad Mentrau Iaith Cymru ledled Cymru yn flynyddol ar 15 Hydref. 

Gan Emma Dyer



Cynhelir Diwrnod Shwmae Su'mae, sy'n ddathliad cenedlaethol o'r Gymraeg, dan arweiniad Mentrau Iaith Cymru ledled Cymru yn flynyddol ar 15 Hydref. 

Cynhaliwyd y Diwrnod Shwmae Su'mae cyntaf yn 2013 i annog y defnydd o'r Gymraeg i ddechrau pob sgwrs a bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – siaradwyr rhugl, dysgwyr a'r rhai sy'n teimlo bod eu sgiliau ieithyddol ychydig yn rhydlyd.  Thema'r ymgyrch eleni yw cael hwyl wrth siarad Cymraeg, ble bynnag rydych chi'n byw a beth bynnag yw eich lefel.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi ymroi i ehangu ei wasanaethau dwyieithog er mwyn adlewyrchu amrywiaeth ieithyddol y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu'n well, gan fynd y tu hwnt i ofynion deddfwriaethol.

Enghraifft pwysig o ymroddiad y Gwasanaeth i hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y sefydliad yw ei gefnogaeth i staff  ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg.  Dau aelod o GTACGC sydd wedi elwa o gyrsiau Cymraeg a ddarperir gan y Gwasanaeth yw Amy Richmond-Jones, Rheolwr Ymgysylltu, Cynllunio a Pherfformiad, a Rachel Kestin, Swyddog Cyfathrebu, Ymgysylltu ac Ymgynghori.

Isod, maen nhw’n trafod eu profiadau wrth ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg.




Amy Richmond-Jones




Rachel Kestin



Oeddech chi'n siarad Cymraeg neu'n clywed yr iaith gartref fel plentyn?



Na, cefais i fy magu mewn cartref di-Gymraeg.



Dw i'n dod o'r Rhyl!! Roedd hi'n anghyffredin iawn clywed Cymraeg yn Rhyl! A doedd byth yn cael ei siarad gartref. Fe ddysgais i Gymraeg yn yr ysgol ond ni wnaeth fy mrawd, oedd ond blwyddyn yn hŷn, na minnau barhau â'r sgyrsiau gartref.



Faint o Gymraeg oedd yn cael ei siarad yn eich ysgol?



Gan sylweddoli pwysigrwydd tyfu i fyny fel siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a'r manteision a allai ddod o hynny, dewisodd fy rhieni anfon fy chwaer a minnau i ysgol gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg, lle cawsom ein haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.



Tipyn Bach!  Roedden ni’n cael un wers Gymraeg orfodol yr wythnos os dw i’n cofio’n iawn. Dim ond yn y wers honno yr oeddech chi'n siarad Cymraeg oni bai eich bod chi'n taro ar eich athro Cymraeg yn y coridor, ond roedd hynny'n anghyffredin iawn!



Pryd wnaethoch chi sylweddoli neu deimlo eich bod chi eisiau siarad mwy o Gymraeg a beth oedd y rheswm dros hynny?



Dechreuais i fod eisiau siarad mwy o Gymraeg pan sylweddolais fy mod i'n gallu deall sgyrsiau oedd yn digwydd o'm cwmpas, ond doeddwn i byth yn teimlo'n ddigon hyderus i'w defnyddio. Roeddwn i wedi mynd trwy addysg cyfrwng Cymraeg, felly roedd y sylfaen yna, ond y tu allan i'r ysgol roeddwn i'n defnyddio’r Saesneg bob amser am nad oeddwn i'n teimlo'n hyderus yn defnyddio fy Nghymraeg. Roedd yn teimlo'n bwysig cadw'r iaith yn fyw yn fy mywyd bob dydd, felly rydw i wedi bod yn ceisio magu fy hyder a'i defnyddio mwy - yn enwedig yn y gwaith ac mewn sgyrsiau o ddydd i ddydd.



Pan symudais i i Orllewin Cymru o Ogledd Cymru daeth yn amlwg iawn bod y Gymraeg yn ffordd o fyw yma. Doedd dim angen i mi siarad Cymraeg yn fy swyddi blaenorol yng Nghaerfyrddin ond roedd ymuno â'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn agoriad llygad! Doeddwn i erioed wedi bod mewn sefyllfa lle roedd mwy o siaradwyr Cymraeg na Saesneg. Dw i'n meddwl bod ei chlywed o'm cwmpas bob dydd wedi gwneud i mi fod eisiau dysgu.

Fe wnaeth Llew, Swyddog Safonau'r Gymraeg yn GTACGC fy annog i ddysgu Cymraeg a gwneud iddo swnio'n rhywbeth hamddenol sy’n hwyl i'w wneud (ac mae hynny’n wir).



Sut wnaethoch chi ddysgu a gwella eich Cymraeg?



I ddechrau, gofynnais am gymorth i wella fy sgiliau iaith Gymraeg drwy broses Adolygiad Datblygiad Unigol y Gwasanaeth ac yna cefais fy nghyfeirio at gyrsiau perthnasol.



Dw i’n ymarfer yn ystod yr wythnos ac yn fy nosbarth Cymraeg, yn ogystal â gwrando ar radio Cymraeg o bryd i'w gilydd.

Mae siarad â'r swyddog Safonau'r Gymraeg wedi helpu i roi hwb i fy hyder, fe wnaeth i mi fod eisiau rhoi cynnig arni heb unrhyw bwysau na disgwyliadau.



Beth oedd neu yw'r rhan anoddaf o'ch taith iaith?



Mae meithrin hyder wrth ddefnyddio'r iaith wedi bod yn rhan fawr o'r daith. Roeddwn i'n arfer rhoi llawer o bwysau arnaf i fy hun i fod yn berffaith, a wnaeth i mi osgoi siarad Cymraeg yn gyfan gwbl. Nawr, os nad ydw i'n siŵr o air, rwy'n newid i'r Saesneg am ychydig ac yn parhau yn y Gymraeg, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr.



Fy nghof! Mae'n swnio fel esgus ond ar ôl 3 babi a heneiddio, mae fy nghof yn wael iawn! Yn fwy na hynny fy nghof tymor byr sydd ddim yn helpu! Hoffwn i allu cofio gwybodaeth ychydig yn well yn y tymor byr.

Hefyd, fy hyder, rydw i bob amser yn amau fy ngallu.



Beth yw'r peth mwyaf cadarnhaol sydd wedi dod o ddysgu a gwella eich Cymraeg?



Mae gallu sgwrsio gyda llawer o wahanol bobl, yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith, wedi fy helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg.



Pa neges fyddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n meddwl am ddysgu'r iaith neu wella eu sgiliau?



Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu.  Peidiwch â phoeni am fod yn berffaith - mae pawb yn dechrau yn rhywle, ac mae gwneud camgymeriadau yn rhan o ddysgu. Mae yna lwyth o adnoddau a chefnogaeth wych allan yna, a gall hyd yn oed defnyddio ychydig o Gymraeg o ddydd i ddydd wneud gwahaniaeth mawr. Mae'n ffordd wych o gysylltu â'r diwylliant a'r bobl o'ch cwmpas, a po fwyaf rydych chi'n ei ddefnyddio, y mwyaf hyderus rydych chi'n dod.



Dw i’n gallu deall llawer mwy o'r hyn y mae pobl yn ei ddweud yn Gymraeg nawr. Rwy’n gallu deall sgwrs o'm cwmpas o glywed dim ond rhai o'r geiriau. Efallai na fydda i’n deall y cyfan, ond dw i’n cael y syniad! 

Fy hyder i siarad o flaen pobl heb deimlo'n wirion! Dw i'n cael fy annog a dydy pobl ddim yn chwerthin am fy mhen… llawer!



Oes gennych chi hoff air neu ymadrodd Cymraeg (a pham)?



Dw i’n hoff iawn o'r gair hiraeth - yn enwedig am nad oes cyfieithiad Saesneg uniongyrchol, ac mae'n unigryw i’r Gymraeg.



Dwi’n brysur, Dwi wedi blino a Dwi’n ddiog - Dw i’n eu defnyddio’n aml yn fy ngwersi.

Dw i wrth fy modd â'r gair ‘ofnadwy’ oherwydd mae'n swnio'n wych pan fyddwch chi'n ei ddweud ac mae'n disgrifio sut dw i’n meddwl yr ydw i'n swnio'n siarad Cymraeg!

Erthygl Flaenorol