Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa o wiriad Diogelwch yn y Cartref am ddim?
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyflwynodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymgyrch newydd #DwinNabodRhywun yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae'r ymgyrch yn annog teulu a ffrindiau i gadw golwg ar eu cymdogion a'u perthnasau, yn enwedig y rheini a allai fod yn agored i niwed, yn oedrannus neu'n byw ar eu pennau eu hunain.
Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar gymunedau gwledig ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael ymweliad Diogelwch yn y Cartref. Mae'r ymweliadau hyn yn caniatáu i staff Diogelwch Cymunedol wirio ffactorau pwysig yn y cartref, megis cael larymau mwg sy’n gweithio, diogelwch trydanol, llwybrau dianc clir a mwy.
Mae ymweliadau Diogelwch yn y Cartref GTACGC yn cael eu cynnal gan swyddogion hyfforddedig, maent ar gael am ddim a gallent achub bywydau.
Mae’r ystadegau’n dangos bod 58% o’r bobl oedd yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a gollodd eu bywydau mewn tanau tai yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn byw ar eu pennau eu hunain.
Yn ôl y Rheolwr Gorsaf Rob Tovey: