Ddydd Sadwrn, 22 Mawrth, aeth Michelle Williams a Bryony Phillips o dîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) i Seremoni Uchel Siryf Dyfed 2025 yn Mansion House, Pantyrathro.
Cafodd Michelle a Bryony gydnabyddiaeth am eu 'Gwasanaeth Eithriadol i'r Gymuned' a dyfarnwyd Gwobr Uchel Siryf Dyfed 2025 iddyn nhw, yn dilyn eu gweithredoedd wrth gynorthwyo aelod o'r cyhoedd a oedd yn wynebu heriau iechyd meddwl a lles yn ystod ymweliad diogelwch yn y cartref.
Dywedodd Bethan Gill, Arweinydd Cymunedol Canolog GTACGC:
"O ganlyniad i empathi a thosturi Michelle a Bryony, cafwyd sgwrs gyda’r unigolyn a oedd yn dioddef yn dawel, ac roedden nhw’n gallu cyfeirio at asiantaethau a allai ddarparu cymorth effeithiol ar unwaith. Mae'r wobr hon yn cydnabod y gwaith hanfodol a wneir gan ein Hymarferwyr Diogelwch Cymunedol. Mae eu hymdrechion diflino i sicrhau lles a diogelwch ein cymuned yn amhrisiadwy."
Mae tîm cyfan GTACGC yn estyn eu llongyfarchiadau gwresog i Michelle a Bryony ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o'u cyfraniadau nodedig i'r gymuned.
Ymweliad Diogel ac Iach
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig gwasanaeth Ymweliad Diogel ac Iach AM DDIM.
Mae ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys gosod larymau newydd a phrofi larymau presennol, yn ogystal â chyngor diogelwch amhrisiadwy ar bynciau sy'n cynnwys diogelwch y cartref, ymwybyddiaeth o sgamiau, mynd i'r afael ag unigrwydd a bod yn ynysig, a mwy.
I drefnu ymweliad Diogel ac Iach am ddim, ffoniwch 0800 169 1234 neu cwblhewch ein ffurflen ar-lein yma.

