03.06.2025

Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam!

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd eleni, a gynhaliwyd ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot rhwng 26 a 31 Mai.

Gan Rachel Kestin



Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd eleni, a gynhaliwyd ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot rhwng 26 a 31 Mai.

Eisteddfod yr Urdd yw Gŵyl Ieuenctid fwyaf Ewrop. Mae’n ddathliad o’r iaith Gymraeg, ac yn llawn cerddoriaeth, diwylliant a chyfoeth talent ifanc yng Nghymru. Bob blwyddyn mae tua 15,000 o blant a phobl ifanc, ynghyd â'u teuluoedd, yn mynd i’r Eisteddfod.

Roedd gan ein Tîm Diogelwch Cymunedol stondin yng nghanol yr ŵyl, y lleoliad perffaith i gynnig cyngor a gwybodaeth diogelwch yn rhad ac am ddim i aelodau'r cyhoedd, yn ogystal â'r cyfle i gofrestru am wiriad Diogel ac Iach am ddim.

Roedd digon o weithgareddau i blant gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys taflenni lliwio Sbarc, cyfle i wisgo cit diffoddwr tân, yn ogystal â chyfle i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth 'Peryglon Trydanol' i geisio ennill Draig Lego!

Fe wnaeth Sbarc, masgot annwyl y Gwasanaeth, ymddangosiadau trwy gydol yr wythnos hefyd, gan roi cyfle gwych i dynnu llun!

Er gwaethaf tywydd cyfnewidiol Cymru, roedd hi'n wythnos wych gydag awyrgylch bywiog o'r dechrau i'r diwedd!

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn yr ŵyl, yn enwedig y rhai a alwodd heibio stondin GTACGC, ac edrychwn ymlaen at Eisteddfod yr Urdd 2026 yn Ynys Môn.






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf