18.07.2024

Enillydd Cystadleuaeth Ysgol Y Bannau

Dyma’r enillydd cystadleuaeth, Anwyn Sheers o Ysgol y Bannau yn Aberhonddu, gyda’i dau boster Recriwtio Diffoddwyr Tân buddugol.

Gan Lily Evans



Bu disgyblion Ysgol y Bannau yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth gwneud poster ein hymgyrch recriwtio ddiweddaraf.

Anwyn Sheers ddaeth i’r brig, a’r wobr iddi hi a’i dosbarth oedd ymweld â gorsaf Aberhonddu. Cafodd y plant gwrdd â’r criw a gweld y peiriannau. Cawsant flas ar fod yn ddiffoddwyr tân hefyd, yn chwistrellu dŵr ar danau esgus ac yn helpu gydag ymarfer achub o ddŵr, a chafwyd ras hefyd i weld pwy oedd yn gallu gwisgo cit tân gyflymaf, diffoddwr tân ynteu un o’r athrawon!





Roedd ymddygiad y plant mor dda, a chafwyd cwestiynau gwych ganddyn nhw – roedden nhw’n glod i'w hysgol.

Da iawn Anwyn!




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf