09.12.2025

Gorsaf Dân Caerfyrddin yn cynnal digwyddiad “Paned gyda’r Criw” llwyddiannus

Ddydd Llun 8 Rhagfyr, cynhaliodd Gorsaf Dân Caerfyrddin ddigwyddiad  “Paned gyda’r Criw” llwyddiannus i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Llun 8 Rhagfyr, cynhaliodd Gorsaf Dân Caerfyrddin ddigwyddiad  “Paned gyda’r Criw” llwyddiannus i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân.

Ymunodd aelodau presennol y criw â chydweithwyr o'r pencadlys a staff wedi ymddeol, i fwynhau paned a chacen wrth ailgysylltu â hen ffrindiau a chwrdd â rhai newydd.

Daeth y digwyddiad nid yn unig â phobl at ei gilydd ar gyfer achos gwych, ond rhoddodd gyfle hefyd i aelodau'r gymuned gwrdd â'r criwiau a dysgu mwy am y gwasanaeth.

Cododd y digwyddiad £148 gwych ar gyfer yr elusen. Hoffem estyn ein diolch diffuant i bawb a ymunodd â ni ac am gyfrannu.

 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf