Wedi gwisgo yn eu cit a’u hoffer diffodd tân, ac yn cario bwcedi casglu rhoddion, cerddodd aelodau’r criw 22 milltir o Orsaf Dân Machynlleth i Aberystwyth trwy Orsaf Borth – gan wneud dros 50,000 o gamau!
Aeth y criw ar y daith gerdded elusennol i godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân - sy'n rhoi cefnogaeth gydol oes arbenigol i aelodau o gymuned gwasanaethau tân y DU. Er mwyn sicrhau bod yr Elusen yn gallu gwneud hyn ar gyfer dros 5,000 o bobl y flwyddyn a thalu’r £9m sydd ei hangen ar gyfer gweithredu ei gwasanaethau cymorth, mae’n dibynnu ar roddion rheolaidd gan bersonél y gwasanaeth tân ac achub, ddoe a heddiw, yn ogystal â’r cyhoedd.
Gyda dros £550 wedi’i godi yn ystod y daith gerdded elusennol, ynghyd â rhoddion a dderbyniwyd trwy eu tudalen JustGiving, mae’r criw wedi codi dros £3,900 ar hyn o bryd. Cynhaliodd cerddwr cŵn lleol, ‘Paws a While’, daith gerdded gŵn noddedig i gynyddu eu harian.
Mae'r criw yn dal i dderbyn rhoddion trwy eu tudalen JustGiving a byddai unrhyw rodd - mawr neu fach - yn cael ei werthfawrogi'n fawr.