25.11.2024

GTACGC yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r Rhuban Gwyn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn parhau â'n cefnogaeth ymroddedig i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod trwy gefnogi White Ribbon UK.

Gan Lily Evans



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn parhau â'n cefnogaeth ymroddedig i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod trwy gefnogi White Ribbon UK.

White Ribbon UK yw’r brif elusen sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais yn erbyn menywod a merched.

Fel Gwasanaeth rydym wedi dangos ein cefnogaeth i roi terfyn ar yr holl drais gan ddynion yn erbyn menywod drwy gydnabod a chefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Gan ddechrau ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2024, bydd y Gwasanaeth yn cymryd rhan mewn 16 diwrnod o weithredu gydag ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, y gallwch ei dilyn ar-lein trwy ein Facebook

Rydym yn annog pawb, yn enwedig dynion a bechgyn, i wneud addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod. Gall pob dyn ymuno â'r tîm i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched #DechrauGydaDynion.

 

"Yn GTACGC mae gennym lawer o ddynion sy’n fodelau rôl cadarnhaol. Rydym wedi ymrwymo i herio ac addysgu ein gweithlu a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.”

Jay Crouch - Dywedodd yr Arweinydd Diogelu


Am fwy o wybodaeth neu i lofnodi addewid White Ribbon UK, ewch i: Make the White Ribbon Promise — White Ribbon UK

Sut allwn ni helpu

Mae holl Orsafoedd Tân ac Achub Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithredu fel Hafanau Diogel. Mae hyn yn golygu y gall pobl sy'n teimlo'n agored i niwed acsydd mewn perygl di-oed oherwydd stelciwr, cam-drin domestig neu unrhyw fygythiad arall fynd i un o'n Gorsafoedd Tân i ofyn am help a chefnogaeth.

Gallwch ddod o hyd i'ch gorsaf agosaf yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf