08.07.2024

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: Ein Hymateb Gweithredol 2023-2024

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cynnydd ar Berfformiad a Gwelliant diweddaraf.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cynnydd ar Berfformiad a Gwelliant diweddaraf. 

Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o berfformiad ac ymateb gweithredol GTACGC rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, gan gynnwys nifer a natur y digwyddiadau a fynychwyd, yn ogystal ag adolygu strategaethau a mentrau atal ac ymateb a wneir i wella'r modd y darperir gwasanaethau.

Er y gall fod yn dybiaeth gyffredin bod y Gwasanaethau Tân ac Achub (GTA) yn ymateb i danau yn bennaf, mae'r adroddiad wedi tynnu sylw at y ffaith bod nifer y tanau a fynychwyd gan GTACGC dros y flwyddyn ddiwethaf wedi gostwng bron i 15%, o 3,023 o ddigwyddiadau yn 2022-2023, i 2,582 yn 2023-2024.  Dim ond 19.8% o gyfanswm y digwyddiadau sy'n cael eu mynychu sy’n danau, boed hynny'n danau damweiniol neu fwriadol. 

Fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer y mathau eraill o ddigwyddiadau a fynychwyd, megis cynnydd o 2% yng nghyfanswm y digwyddiadau a fynychwyd, a chynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd a digwyddiadau llifogydd sy'n gofyn am bresenoldeb criwiau GTACGC.  Mae nifer y digwyddiadau llifogydd a fynychwyd wedi codi o 349 yn 2022-2023, i 393 yn 2023-2024, cynnydd o 12%.

Galwadau diangen yw'r ganran uchaf o'r holl ddigwyddiadau y mae'r Gwasanaeth yn eu mynychu, gyda bron i 6,000 o alwadau yn ystod y cyfnod hwn.  Er mwyn gwneud gwell defnydd o adnoddau GTACGC, yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gwasanaeth newid i'r ffordd y mae'n ymateb i Larymau Tân Awtomatig  o 1 Gorffennaf 2024.

Mae GTACGC yn darparu gwasanaeth ymateb brys, gwiriadau diogelwch yn y cartref, arolygiadau busnes, rhaglenni addysg a mwy dros 4,500 milltir sgwâr gyda phoblogaeth o dros 910,000 o bobl yn byw mewn mwy na 430,000 o aelwydydd.  Mae 58 o Orsafoedd Tân y Gwasanaeth yn gwasanaethu tua dwy ran o dair o Gymru, gyda'r holl wasanaethau hyn yn costio dim ond £6 y mis i bob preswylydd yn ardal y Gwasanaeth.

Mae'r data o'r Adroddiad Cynnydd ar Berfformiad a Gwelliant wedi tynnu sylw at y newid dramatig yn nhirwedd digwyddiadau y mae Gwasanaethau Tân ac Achub bellach yn eu mynychu.  Cefnogir hyn ymhellach gan grynodeb Llywodraeth Cymru o ddigwyddiadau tân ac achub 2022-2023, sy'n amlinellu bod gostyngiad wedi bod yn nifer y tanau ers 2001-2002, gyda chyfanswm y digwyddiadau hyn yn gostwng bron i 70% ledled Cymru.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd yn nifer y digwyddiadau meddygol y bu'n rhaid i griwiau GTACGC ymateb iddynt (dros 1,000 yn 2023-2024), gyda Diffoddwyr Tân yn derbyn hyfforddiant ychwanegol ar sut i ddelio â digwyddiadau meddygol ac mae offer meddygol newydd, fel diffibrilwyr, wedi'u cyflwyno ar beiriannau tân.

Yn ogystal, bu cynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd (dros 700 yn 2023-2024) a digwyddiadau cysylltiedig â llifogydd (393 yn 2023-2024) mae GTACGC wedi ymateb iddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos bod canfyddiad y cyhoedd o'r hyn y mae Gwasanaethau Tân ac Achub yn ei wneud yn sylweddol wahanol i'r realiti.

Gan gydnabod hyn, mae'r Gwasanaeth wedi lansio ei Gynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 yn ddiweddar, sy'n amlinellu sut y mae GTACGC yn bwriadu mynd i'r afael â'r risgiau, y bygythiadau a'r heriau sy'n wynebu'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.  Mae hefyd yn tynnu sylw at sut y bydd y Gwasanaeth yn gweithio i sicrhau bod ei asedau a'i adnoddau yn cael eu defnyddio mor effeithlon ac mor llwyddiannus â phosibl.  Gellir gweld mwy o wybodaeth am y Cynllun Rheoli Risg 2040 yma.

Mae GTACGC yn chwilio'n barhaus am ffyrdd o wella a theilwra'r gwasanaethau y mae'n eu darparu, ac mae barn a sylwadau’r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu yn hanfodol i'r gwaith hwn.  Gallwch ddweud eich dweud a helpu i lunio dyfodol eich GTA drwy gwblhau ein Arolwg Dweud Eich Dweud

Mae GTACGC wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau canolbarth a gorllewin Cymru.  Mae GTACGC yma i chi ac nid ar gyfer tanau yn unig.  #EichGTACGC

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf