Bydd y confoi, sy’n cael ei gydlynu gan FIRE AID a phartneriaid, a’i gefnogi gan Lywodraeth Ei Fawrhydi, yn gadael ym mis Ebrill 2025 a hwn fydd y confoi mwyaf erioed o Wasanaethau Tân ac Achub y DU.
Bydd y confoi yn danfon dros 30 o gerbydau’r Gwasanaeth Tân ac Achub, ac yn cludo dros 15,000 o ddarnau o offer a gyfrannwyd gan wahanol Wasanaethau Tân ac Achub y DU, gan ychwanegu at y 119 o gerbydau a dros 200,000 o ddarnau o offer sydd eisoes wedi’u cyfrannu ers i’r ymosodiad yn Wcráin ddechrau yn 2022.
Bydd yr adnoddau a gyfrannwyd yn rhoi cefnogaeth werthfawr i Ddiffoddwyr Tân Wcráin, sy'n parhau i weithredu yn ardal y rhyfela, i achub bywydau a diogelu eiddo ac i beidio â chymryd rhan yn yr ymladd, a hyn oll yn aml yn peri risg bersonol fawr. Ers dechrau'r rhyfel, mae 100 o Ddiffoddwyr Tân wedi cael eu lladd a 431 wedi'u hanafu; yn y cyfamser, mae 411 o orsafoedd tân a 1,700 o gerbydau tân wedi'u dinistrio.
Mae Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru a Lloegr wedi cyfrannu’r holl beiriannau a chit ar gyfer y confoi, sy’n cynnwys offer diffodd tân sylfaenol fel pibellau, cyfarpar diogelu personol ac offer a chyfarpar gwrthdrawiadau ar y ffordd ymhlith pethau eraill. Bydd tua 100 o wirfoddolwyr o Wasanaethau Tân ac Achub y DU a FIRE AID yn cymryd rhan yn y confoi.