Cyn bo hir bydd pob un sydd wedi graddio yn dechrau eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn yn eu Gorsaf Dân ddynodedig. Mae pawb yn GTACGC yn eu llongyfarch ac yn dymuno gyrfa hir a llwyddiannus i bob un ohonynt.
Tystysgrif Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn
Rhoddodd y Prif Swyddog Tân Thomas dystysgrif wedi’i fframio i bob Diffoddwr Tân Amser Cyflawn i gydnabod eu bod wedi cwblhau’r Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn 14 wythnos o hyd.

Cyflwyno Gwobr Arbennig Ffitrwydd Corfforol a Chlwb 300
Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu gan Dîm Ffitrwydd y Gwasanaeth ac yn cael ei chyflwyno i’r recriwt sydd wedi gwthio’i hun i’r eithaf yn gyson ac sydd wedi ymdrechu i wneud ei orau glas bob tro.
O garfan 01/25, cyflwynwyd y wobr hon i Kallum Richards gan y Prif Swyddog Tân Thomas.

Gwobr Recriwt y Recriwtiaid
Mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael ei ddewis gan y recriwtiaid eraill ar y cwrs. Mae’n cael ei rhoi i'r recriwt sydd wedi ymdrechu orau yn bersonol ac wrth helpu eu cyd-recriwtiaid. Mae hon yn wobr arwyddocaol gan ei bod yn tynnu sylw at unigolyn sy'n perfformio'n arbennig o dda.
Cyflwynwyd y wobr i Rhys Tucker gan Gadeirydd yr Awdurdod Tân, y Cynghorydd Gwynfor Thomas.

Y Wobr i’r Recriwt â’r Perfformiad Gorau
Mae’r Fwyell Arian yn cael ei rhoi i'r recriwt sy'n perfformio orau ar y cwrs ac mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael ei ddewis gan eu prif hyfforddwyr. Bydd y recriwt sy'n perfformio orau wedi perfformio ar lefel uchel yn gyson ym mhob tasg drwy gydol y cwrs. Mae gallu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, canlyniadau arholiadau, arweinyddiaeth a gweithio fel rhan o dîm i gyd yn cael eu hystyried wrth ddewis y recriwt sy’n perfformio orau.
Cyflwynwyd y wobr hon i Llion Jones gan y Prif Swyddog Tân Thomas.