01.05.2025

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Cynnal Ail Gynhadledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad

Ddydd Sul, Ebrill 6ed, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei ail Gynhadledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad, ym Mhafiliwn yr Aelodau ar Faes Sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.

Gan Steffan John



Ddydd Sul, Ebrill 6ed, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ei ail Gynhadledd Diffoddwyr Tân Ar Alwad, ym Mhafiliwn yr Aelodau ar Faes Sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.

Nod y gynhadledd oedd tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud o fewn GTACGC a thu hwnt i wella’r System Dyletswydd Ar Alwad, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau’r Gwasanaeth, megis y Cynllun Rheoli Risg Cymunedol, a thrafod argymhellion a phryderon ynghylch gwella recriwtio a chadw Diffoddwyr Tân Ar Alwad o fewn GTACGC.

Ymhlith y siaradwyr roedd sawl aelod o bersonél GTACGC, gan gynnwys y Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM, y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Craig Flannery a oedd hefyd yn arwain y digwyddiad, y Rheolwr Grŵp Richard Felton a’r Rheolwr Grŵp Phil Morris, yn ogystal â siaradwyr allanol gan gynnwys Dr Steve Sadler o Re-enkindle a Claire McMinn o Elusen y Diffoddwyr Tân.

Yn ddiweddarach yn y dydd, roedd cyfle i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad y Gwasanaeth ddysgu mwy am yr offer a'r peiriannau arbenigol sydd gan GTACGC o fewn ei fflyd, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb gyda siaradwyr y gynhadledd.

Mae'r gwelliannau i recriwtio a chadw Diffoddwyr Tân Ar Alwad a nodwyd a'u gweithredu o fewn GTACGC dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf hyd yn hyn wedi cyflawni cynnydd o 2.3% mewn argaeledd ar draws y Gwasanaeth.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Mae 75% o Orsafoedd Tân GTACGC yn cael eu criwio’n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.

Mae'n rhaid i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol ac maent yn dod o bob cefndir.  Maent yn gallu ennill cyflog wrth roi eu hamser i gynorthwyo’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol