Ddydd Gwener, 16 Mai, cynhaliwyd y Gwobrau Rhagoriaeth Chwilio ac Achub Byd-eang yn San Steffan.
Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Chwilio ac Achub Byd-eang, sy’n cael eu trefnu gan gylchgrawn FIRE a'r Sefydliad Chwilio ac Achub Technegol, yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau timau, gwirfoddolwyr, sefydliadau a chyflenwyr ym maes chwilio ac achub sy'n gweithio'n ddiflino i ymateb i drychinebau.
Derbyniwyd dros 100 o enwebiadau o 20 o wledydd gwahanol ac roedd y digwyddiad yn dathlu unigolion a thimau o bob cwr o'r byd sydd wedi dangos ymroddiad diflino i'r gymuned chwilio ac achub.
Yn bresennol ac yn cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) roedd y Dirprwy Brif Swyddog Tân Iwan Cray, y Rheolwr Grŵp Steve Davies a'r Rheolwr Grŵp Stuart Bate. Cyrhaeddodd y Rheolwr Grŵp Steve Davies y rhestr fer yng nghategori Cefnogwr y Flwyddyn am ei gyfraniad gweithredol drwy gydol ei yrfa Chwilio ac Achub Rhyngwladol (ISAR). Ymunodd Steve ag ISAR y DU yn 2008, ac mae wedi bod yn rhan annatod o'r tîm am yr 17 mlynedd diwethaf.
Y Rheolwr Grŵp Davies yw'r Arweinydd Tîm a'r Cydlynydd ar gyfer gallu ISAR GTACGC, ac mae wedi dangos ymrwymiad diwyro yn ystod ei gyrfa.