Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn bresennol yn Pride Abertawe ddydd Sadwrn, 18 Mai, am ddiwrnod llawn lliw a dathlu.
Gwych oedd gweld cynifer o bobl yn ymuno, yn dod ynghyd, yn dathlu amrywiaeth, ac yn dangos eu cefnogaeth i'r gymuned LGBTQ+.
Dechreuwyd y diwrnod gyda gorymdaith wych Pride a oedd yn llawn lliw, hwyl a chwerthin. Dilynwyd hyn gan wledd o adloniant gan gerddorion talentog, breninesau drag a llawer mwy.
Roedd yn fraint i GTACGC gael bod yn rhan o'r digwyddiad. Bu’n Tîm Diogelwch Cymunedol yn cyflwyno llawer o wybodaeth am ddiogelwch trwy gydol y dydd, a hynny wrth ymyl yr injan dân Pride arbennig, a daeth Sbarc, masgot y Gwasanaeth, i ddweud helô hefyd!
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Craig Flannery:
Fel Gwasanaeth rydym wedi ymrwymo i ganfod, i ddeall ac i ddileu pob rhwystr sy'n atal mynediad at wasanaethau, at wybodaeth ac at gyflogaeth. Rydym yn ymdrechu i gefnogi’r aelodau hynny o gymdeithas sy’n cael eu tangynrychioli i oresgyn rhwystrau, gan hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth.
Rydym eisoes yn edrych ymlaen at ddathlu yn Pride Abertawe 2025!