Cefnogwyd gan Elusen y Diffoddwyr Tân
Yn y llun gyda Thystysgrif Gwerthfawrogiad y Gwasanaeth mae Prif Swyddog Tân Cynorthwyol (PSTC) GTACGC, Craig Flannery a Swyddog Ymateb Canolog a Chydlynydd Elusennau GTACGC, Nerys Thomas. Mae'r ddau wedi elwa’n bersonol o'r gefnogaeth a roddir gan Elusen y Diffoddwyr Tân.
Yn ystod ei adferiad o anaf i'w ligament pen-glin, cafodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Flannery gefnogaeth amhrisiadwy trwy Elusen y Diffoddwyr Tân, a chwaraeodd ran hanfodol yn ei daith adsefydlu. Rhoddodd yr Elusen driniaeth a chymorth wedi'i deilwra iddo, gan ei helpu i reoli'r heriau corfforol ac emosiynol sy'n aml yn cyd-fynd ag anafiadau o'r fath.
Yn ogystal â gwasanaethu fel cyswllt rhwng Elusen y Diffoddwyr Tân a phob rhan o GTACGC a'i staff, mae Nerys wedi profi'r cymorth lles corfforol a meddyliol y mae'r Elusen yn ei ddarparu. Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Elusen y Diffoddwyr Tân, mae Nerys wedi rhannu sut y cafodd driniaeth adsefydlu yn dilyn damwain sgïo. Roedd ei rhaglen bwrpasol yn cynnwys sesiynau pwll, gweithdai a theithiau cerdded, a helpodd hi i ddychwelyd i'w chariad at redeg yn gyflymach na'r disgwyl. Ar ôl i'w thad farw, roedd Nerys yn gwybod y gallai droi at yr Elusen am gefnogaeth eto a chymerodd ran mewn arhosiad Gorffwys ac Ail-Egni yn Harcombe House.