Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi codi swm anhygoel o £166,297 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân!
Codwyd yr arian hwn o ganlyniad i ymdrechion anhygoel staff gweithredol a chymorth y Gwasanaeth, sydd wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a heriau, golchfeydd ceir a Diwrnodau Agored codi arian.
Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol Diffoddwyr Tân sy’n gwasanaethu ac wedi ymddeol, eu teuluoedd a phersonél eraill y Gwasanaethau Tân ac Achub. Fe’i sefydlwyd ym 1943, ac mae’r Elusen yn cael ei hariannu drwy roddion a digwyddiadau codi arian Gwasanaethau Tân ac Achub y DU, ac mae’n adnodd hanfodol i’r rhai sy’n cysegru eu bywydau i ddiogelu eraill.
Dyma ein Prif Swyddog Tân, Roger Thomas KFSM, gyda’n tystysgrif Elusen y Diffoddwyr Tân sy’n cydnabod cefnogaeth y Gwasanaeth.
Diolch o galon!