Mae gwefan newydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi ennill yn ddiweddar yn y categori 'Gwasanaeth Cyhoeddus Cymunedol' yng Ngwobrau Rhagoriaeth ar y We.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth ar y We (Web Excellence) wedi ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth ar y we a gosod safonau uchel trwy gydnabod creadigrwydd ac arloesedd digidol. Dewisir enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth ar y We trwy broses werthuso fanwl, sy'n cael ei harwain gan arbenigwyr o gefndiroedd amrywiol, gan sicrhau asesiad teg o sawl maen prawf gan gynnwys creadigrwydd, ymarferoldeb, arloesedd ac effaith gyffredinol.
Cafodd gwefan GTACGC, a lansiwyd ddechrau Gorffennaf 2024, ei dylunio a'i hadeiladu gan Connect Internet Solutions, yn dilyn proses dendro gystadleuol. Gyda phwyslais ar hygyrchedd a gwell profiad i ddefnyddwyr, bu misoedd o waith datblygu a phrofi ar wefan GTACGC.
Dywedodd Aled Lewis, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Datblygu Busnes GTACGC: