10.05.2024

Gweithio mewn Partneriaeth er mwyn Diogelu Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad rhag Tanau

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi bod yn gweithio’n agos gyda Wardeniaid o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â thirfeddianwyr a phorwyr, i greu rhwystrau tân cyn misoedd yr haf.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi bod yn gweithio’n agos gyda Wardeniaid o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â thirfeddianwyr a phorwyr, i greu rhwystrau tân cyn misoedd yr haf.

Bob blwyddyn mae tanau’n gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o diroedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt, ac yn ddiweddar bu aelodau o dimau GTACGC a Bannau Brycheiniog yn creu rhwystrau tân yn ardal y Mynydd Du.

Mae rhwystrau tân yn elfennau hanfodol wrth amddiffyn bywyd gwyllt a chefn gwlad rhag tanau gwyllt.  Bylchau neu ardaloedd o lystyfiant wedi'u clirio sydd wedi'u lleoli'n strategol er mwyn atal tân rhag lledaenu yw’r rhwystrau tân.   Trwy greu rhwystr, mae rhwystrau tân yn helpu i atal tanau gwyllt rhag difa ardaloedd helaeth o dir, a thrwy hynny maen nhw’n diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt a lleihau difrod i'r amgylchedd naturiol.

Nid yn unig maen nhw’n arafu lledaeniad tanau gwyllt, mae rhwystrau tân hefyd yn bwyntiau mynediad i ddiffoddwyr tân, gan ganiatáu iddynt reoli tanau yn well a’u diffodd cyn iddynt waethygu.

Ers cael peiriant dyrnu gwair ‘iCut’ sy’n cael ei reoli o bell, mae Tîm Lleihau Tanau Bwriadol GTACGC wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i nodi ardaloedd lle gwelir patrymau rheolaidd o gynnau tanau bwriadol, yn ogystal â nodi eiddo, seilwaith a chynefinoedd yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddioddef yn sgil tanau gwyllt.

Dywedodd Swyddog Lleihau Tanau Bwriadol Rhanbarth y Gogledd, Jeremy Turner:

“Mae gweithio gydag asiantaethau partner fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hanfodol i leihau effaith tanau sy’n cael eu cynnau’n fwriadol ar draws ardal ein Gwasanaeth. Trwy ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd Wardeniaid y Parc a'r Tîm Lleihau Tanau Bwriadol, gallwn gynllunio a chreu rhwystrau tân addas a fydd yn y pen draw yn lleihau'r effaith ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rheoli llystyfiant mewn modd cyfrifol trwy ddulliau fel llosgi rhagnodedig ac mae gan GTACGC nifer o ffyrdd y gallwn gynnig cymorth i dirfeddianwyr a rheolwyr fel creu cynllun llosgi a chynllunio rhwystrau tân. Mae’r tymor presennol ar gyfer llosgi rhagnodedig bellach wedi dod i ben a hoffwn atgoffa pawb bod llosgi y tu allan i’r tymor a ganiateir yn anghyfreithlon ac y gellir wynebu cosbau ariannol.”



Dywedodd Dr Paul Sinnadurai, Uwch Ecolegydd Mawndiroedd, Afonydd a Gwlyptiroedd Bannau Brycheiniog:

“Gall tanau sydd wedi eu cynnau’n wael ac sydd heb eu rheoli, tanau gwyllt fel y’u gelwir, arwain at ganlyniadau niweidiol i adar sy’n nythu ar y ddaear, mamaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid bach, ac i’r llystyfiant llawn grug, sydd o bwys rhyngwladol ym Mhrydain. Gall tanau gwyllt hefyd niweidio cynefinoedd sy’n llawn mawn fel gorgorsydd Bannau Brycheiniog, cynefin arall sydd o bwys rhyngwladol, gan ryddhau carbon i’r atmosffer a chyfrannu at yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n achosi cynhesu byd-eang. Mae creu rhwystrau tân yn helpu i leihau’r difrod hwn, gan roi amser i ni ymyrryd mewn ffyrdd eraill, er enghraifft trwy losgi dan reolaeth, pori gwartheg a gwaith adfer mawn.”




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf