Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!
Nid yw diffodd tân yn debyg i unrhyw swydd arall: gall fod yn gyffrous, yn ddifyr ac yn annisgwyl. Mae boddhad a pharch yn dod law yn llaw â darparu gwasanaeth hanfodol i'ch cymuned leol.
Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad ac mae system argaeledd a bandio cyflog a gyflwynwyd yn ddiweddar yn cynnig opsiynau mwy hyblyg i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad gydbwyso eu gwaith a'u bywydau personol.
Fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, byddwch chi'n ennill arian ar gyfer hyfforddiant, ymarferiadau a galwadau allan, ynghyd â ffi tâl cadw blynyddol. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau gwerthfawr mewn ymateb i argyfwng ac yn cael mynediad at hyfforddiant ac ardystiadau proffesiynol, a allai arwain at yrfa Diffodd Tân Amser Cyflawn, neu yrfa o fewn gwasanaeth brys arall.
Darganfyddwch fwy am ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad ar yma.