12.11.2024

Gwobr Canmoliaeth Uchel am y Ddarpariaeth Caffael Orau

Cafodd tîm Caffael Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu rhoi ar y rhestr fer am y Ddarpariaeth Caffael Orau yn ddiweddar gan banel beirniaid Gwobrau Rhagoriaeth Caffael Go Wales.

Gan Lily Evans



Cafodd tîm Caffael Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu rhoi ar y rhestr fer am y Ddarpariaeth Caffael Orau yn ddiweddar gan banel beirniaid Gwobrau Rhagoriaeth Caffael Go Wales.

Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo fawreddog yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd gyda’r nos ar 5 Tachwedd, lle cyhoeddwyd bod y tîm Caffael wedi ennill Gwobr Canmoliaeth Uchel am y Ddarpariaeth Caffael Orau am yr ail flwyddyn yn olynol.

Yn dilyn y digwyddiad dywedodd Helen Rees FCIPS, Pennaeth Caffael a Chontractio:

“Efallai ein bod ni’n dîm bach o weithwyr proffesiynol ym maes caffael, ond mae ein hangerdd ar y cyd dros roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn sail i’n holl ddarpariaeth caffael, boed hynny’n datblygu busnesau bach a chanolig lleol neu’n sicrhau bod ein gweithgareddau bob amser yn cefnogi canlyniadau cynaliadwyedd a lles. Mae ennill y wobr Canmoliaeth Uchel am y Ddarpariaeth Caffael Orau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Caffael Go Wales ar ôl cyrraedd y rhestr fer ymhlith sefydliadau llawer mwy yn golygu’r byd i mi ac i’r tîm. Mae’n profi, waeth pa mor fach yw’r tîm, y gallwch chi barhau i fod o fudd i’r cymunedau lle rydych chi’n byw ac yn gweithio cyn belled â bod gennych chi’r angerdd hwnnw dros wneud gwahaniaeth.”



Llongyfarchiadau i bawb yn yr Adran Gaffael!



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf