28.11.2024

Gwobr Caredigrwydd Golau Glas y Tenby Observer wedi'i chyflwyno i Lee Simmons!

Ddydd Gwener 15 Tachwedd, enillodd y Diffoddwr Tân Lee Simmons, Swyddog Addysg Rhanbarth y Gorllewin, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Wobr Caredigrwydd Golau Glas y Tenby Observer.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Gwener 15 Tachwedd, enillodd y Diffoddwr Tân Lee Simmons, Swyddog Addysg Rhanbarth y Gorllewin, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Wobr Caredigrwydd Golau Glas y Tenby Observer.

Roedd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd ym Mhafiliwn De Valence yn Ninbych-y-pysgod, yn dathlu arwyr tawel lleol ar draws amrywiaeth o gategorïau gwobrau. Roedd gwobr Lee yn cydnabod ei ymroddiad diwyro i'r gymuned, trwy ei rôl gyda thîm Diogelwch Tân Cymunedol GTACGC ac fel Diffoddwr Tân Ar-Alwad yng Ngorsaf Dân Dinbych-y-pysgod

Wrth feddwl am y gydnabyddiaeth, dywedodd Lee:

"Cefais alwad ffôn gan y Tenby Observer, yn fy ngwahodd i noson Gwobrau Cymunedol lleol ym Mhafiliwn De Valence yn Ninbych-y-pysgod, i gyd-fynd â Diwrnod Caredigrwydd Rhyngwladol. Esbonion nhw fod y digwyddiad yn gyfle i ddangos diolchgarwch a rhoi diolch i aelodau'r gymuned am eu gweithredoedd caredig. Er mawr syndod i mi, nid yn unig ces i fy enwebu yn y categori Caredigrwydd Golau Glas, ond fe enillais i a chefais y wobr hon! Roeddwn i'n teimlo'n freintiedig, yn llawn syndod ac yn falch iawn.”



Mae tîm cyfan y GTACGC yn estyn eu llongyfarchiadau gwresog i Lee ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o'i gyfraniadau rhyfeddol i'r gymuned.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf