01.10.2024

Gwobrau Mwy Na Dim ond Tan 2024

Ddydd Iau, 26 Medi, Cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTCGC) ei Seremoni Wobrwyo flynyddol, Mwy Na Dim Ond Tanau, yng Ngwesty'r Village yn Abertawe. 

Gan Lily Evans



Ddydd Iau, 26 Medi, Cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTCGC) ei Seremoni Wobrwyo flynyddol, Mwy Na Dim Ond Tanau, yng Ngwesty'r Village yn Abertawe. 

 Eleri Sion


Cafodd y noson ei chyflwyno gan y darlledwr poblogaidd Eleri Sion sy'n fwyaf adnabyddus am ei chynhesrwydd a'i hegni ar BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac S4C.  

Roedd y noson yn gyfle arbennig i ddiolch a chydnabod ymdrechion rhyfeddol, gwaith caled ac ymroddiad staff y Gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf. 

Roedd y seremoni'n cyflwyno cyfanswm o 10 categori o wobrau a oedd yn cynnwys enwebeion a ddewiswyd gan eu cydweithwyr. Roedd yn cynnwys gwobr am Gyfraniad Eithriadol, Codwr Arian y Flwyddyn a Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Prif Swyddog Tân ymysg nifer o wobrau eraill. 



Yn ystod y seremoni, dywedodd y PST Thomas: 

"Dathlu a chydnabod yw pwrpas heno — cyfle i gydnabod ymroddiad, dewrder, a gwasanaeth anhygoel ein timau a'n hunigolion sy'n mynd y filltir ychwanegol i amddiffyn ein cymunedau.   Boed yn ddiffodd tanau gwyllt neu achub, neu’n fentrau diogelwch cymunedol, mae gwaith ein Gwasanaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ymladd tanau ac rydym yma i anrhydeddu'r genhadaeth ehangach honno heno." 



Dyma enillwyr y noson: 



Gwobr Cyfraniad Eithriadol 

Enillydd y wobr gyntaf am Gyfraniad Eithriadol oedd y Rheolwr Grŵp am ei waith anhygoel gyda'r tîm UK International Search and Rescue ac am fynd y tu hwnt i'r disgwyliadau yn gyson i sicrhau bod gweledigaeth ac ymddygiad y Gwasanaeth bob amser yn cael eu bodloni.

Hefyd ar y rhestr fer roedd y Rheolwr Gwylfa wedi ymddeol Steve Amor o Orsaf Dân Llanwrtyd a'r Rheolwr Gwylfa John Herman o Adran Storfeydd y Gwasanaeth. 

 Outstanding Contribution Award - Steven Davies
 Team of the Year Award - FELD


Gwobr Tîm y Flwyddyn 

Roedd Gwobr Tîm y Flwyddyn yn cydnabod grŵp neu dîm sydd wedi dangos cydweithio rhyfeddol, proffesiynoldeb ac ymroddiad diwyro i gyflawni nodau a rennir. Cafodd y wobr ei chyflwyno i’r Adran Fflyd, Peirianneg a Logisteg. Derbyniodd yr Adran Fflyd, Peirianneg a Logisteg y wobr am eu cyfraniadau cyffredinol i'r Gwasanaeth yn ogystal â'u tîm ar-alwad sydd bob amser wrth law i sicrhau bod y Gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth 24/7. 

Hefyd ar y rhestr fer roedd Tîm Cyllid y Gwasanaeth.  



Gwobr Arwr Tawel 

Cyflwynwyd y Wobr Arwr Tawel i’r Rheolwr Gwylfa wedi ymddeol David Price o Orsaf Dân Y Drenewydd am ei yrfa hir a nodedig yn y Gwasanaeth, ac i gydnabod ei ymroddiad a'i waith parhaus yn ei gymuned. 

Hefyd ar y rhestr fer roedd Dawn Newall o Orsaf Dân Llanelli a’r Rheolwr Criw Iwan Ward o Orsaf Dân Crymych. 

 Unsung Hero Award - David Price
 Community and Partnership Award - Elinor Goldsmith


Gwobr Cymuned a Phartneriaeth 

Pedwaredd wobr y noson oedd y Wobr Cymuned a Phartneriaeth a gyflwynwyd i'r Swyddog Addysg Ysgol Elinor Goldsmith am ei chyfraniadau parhaus i'r Gwasanaeth am dros 26 mlynedd, o ymweliadau ysgol i wiriadau diogelwch yn y cartref ynghyd ag amryw waith arall. 

Hefyd ar y rhestr fer roedd Tîm Ieuenctid y Gwasanaeth a’r Tîm Diffibrilwyr Mynediad Cyhoeddus Cymunedol. 



Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 

Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn oedd pumed categori'r noson ac fe'i dyfarnwyd i'r Diffoddwr Tân (Rheoli) Chance Morgan o’r adran Rheoli Tân ar y Cyd am ei gyflawniad yn Jiu Jitsu wedi iddo ennill y fedal aur ym Mhencampwriaethau Agored Prydain eleni ac am ei ymroddiad parhaus i'w rôl. 

Hefyd ar y rhestr fer roedd Tîm Ffitrwydd y Gwasanaeth a'r Diffoddwr Tân Tanja Fulcher o Orsaf Dân Llandeilo. 

 Sports Personality of the Year Award - Chance Morgan
 Fundraiser of the Year Award - Brecon Fire Station


Gwobr Codwr Arian y Flwyddyn 

Cyflwynwyd Gwobr Codwr Arian y Flwyddyn i Orsaf Dân Aberhonddu am eu hymdrechion codi arian parhaus ar gyfer elusennau amrywiol a'u cyfranogiad yn eu cymuned leol. 

Enwebwyd hefyd y Rheolwr Gwylfa Nathan Bringloe a’r Rheolwr Gorsaf, Richard Davies ynghyd â'r Diffoddwr Tân David Farrow o Orsaf Dân Aberdaugleddau.



Gwobr Gorsaf  y Flwyddyn: Rhanbarth y Gorllewin 

Cyflwynwyd Gwobr Gorsaf y Flwyddyn: Rhanbarth y Gorllewin i Orsaf Dân Llanymddyfri. Mae Llanymddyfri yn orsaf ragweithiol iawn sydd bob amser wrth wraidd unrhyw ddigwyddiadau cymunedol ac yn cynnal cysylltiadau busnes lleol cryf, ynghyd ag ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb. 

Y gorsafoedd eraill ar y rhestr fer oedd Gorsaf Dân Arberth a Gorsaf Dân Rhydaman. 

 Western Division Station of the Year Award 
 Northern Division Station of the Year Award 


Gwobr Gorsaf y Flwyddyn: Rhanbarth y Gogledd

Cyflwynwyd Gwobr Gorsaf y Flwyddyn: Rhanbarth y Gogledd i Orsaf Dân y Trallwng i gydnabod eu hymrwymiad cymunedol dwfn, yn enwedig eu hymrwymiad a'u hymroddiad i'w Gwasanaeth Carolau Nadolig blynyddol, sy'n codi hwyl ac yn annog pobl leol i gymryd rhan wrth arddangos brwdfrydedd a hygyrchedd y criw. 

Hefyd ar y rhestr fer roedd Gorsaf Dân Llanidloes a Gorsaf Dân Llanfyllin. 



Gwobr Gorsaf y Flwyddyn: Rhanbarth y De

Enillydd Gorsaf y Flwyddyn: Rhanbarth y De oedd Gorsaf Dân Glyn-nedd am ei safonau ymateb uchel ac ymgysylltiad cymunedol, gan oresgyn heriau trwy recriwtio arloesol a phresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol, ochr yn ochr â chyfrannu at brosiect gardd gyda Cadwch Gymru'n Daclus.  

Hefyd ar y rhestr fer roedd Gorsaf Dân Seven Sisters a Gorsaf Dân Port Talbot. 

 Southern Division Station of the Year Award 


Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Prif Swyddog Tân 

Categori olaf y noson oedd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Prif Swyddog Tân  

Yn dilyn trafodaeth ymhlith y Panel Rhestr Fer, daeth yn amlwg ei bod yn amhosibl dewis dim ond un enillydd ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y PST, ac ar ôl clywed am ddewrder, ymroddiad ac ymrwymiad eithriadol pob enwebai, penderfynwyd eu bod i gyd yn enillwyr teilwng: 

 The Antarctic Fire Angels, Rebecca Openshaw-Rowe and Georgina Gilbert  


Yr Antarctic Fire Angels, Rebecca Openshaw-Rowe a Georgina Gilbert 

Cwblhaodd Rebecca a Georgina, a adnabyddir fel yr Antarctic Fire Angels, y daith gyntaf y byd o arfordir Antarctica i Begwn y De, sydd dros 1,200 km mewn dim ond 52 diwrnod. Gan wynebu tymheredd mor isel â -30°C a gwyntoedd hyd at 60 mya, fe wnaethant ymgymryd â'r her hon heb arweiniad a heb gymorth, gan dynnu slediau 100kg. Roedd eu taith nid yn unig yn herio stereoteipiau rhywedd ond hefyd yn codi arian hanfodol ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.  



Yr Osgordd Baneri Seremonïol 

Mae'r Osgordd Baneri Seremonïol yn cynnwys grŵp o bersonél presennol ac wedi ymddeol sy'n cynrychioli'r Gwasanaeth mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn galendr. Ers ei sefydlu ym 1984, mae'r Osgordd Baneri Seremonïol wedi dangos ymroddiad diwyro, gan fynychu achlysuron allweddol o angladdau i orymdeithiau rhyngwladol. 

 The Colour Party  
 Swansea Central and Swansea West, White Watches 


Gwylfa Wen, Canol Abertawe a Gorllewin Abertawe 

Mae'r ddwy Wylfa Wen, o Ganol Abertawe a Gorllewin Abertawe, yn cael eu cydnabod am eu hymateb i ddigwyddiad difrifol, yn gynharach eleni. Gan wynebu tân difrifol mewn eiddo ac ataliad sydyn ar y galon mewn gardd gyfagos, llwyddodd y criwiau hyn i reoli'r ddau argyfwng yn fedrus ar yr un pryd. Cafodd eu gweithredoedd cyflym, pendant eu cymeradwyo gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ac ers hynny mae'r claf wedi gwella'n llawn, diolch i'w gweithredoedd. 



Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i enwebu'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer pob gwobr, diolch yn fawr hefyd i Total Sound Solutions am eu cymorth gyda'r adnoddau clyweled ar y noson, Martin Ellard am ei help gyda ffotograffiaeth a gwesty’r Village Am eu cefnogaeth hanfodol ar gyfer cynnal noson bleserus iawn. 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf