Ddydd Sadwrn, Medi 28ain, cafodd Diffoddwyr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ar yr Afon Cleddau ger Stryd y Cei.
Yn dilyn cais am gymorth gan y RSPCA, ymatebodd y criw i ddwy hwyaden a oedd yn gaeth mewn llinell bysgota yn yr afon, gan beri gofid arnynt.
Ar ôl gwisgo eu dillad i gerdded trwy ddŵr, llwyddodd y Diffoddwyr Tân i ddal yr hwyaid mewn rhwyd a’u rhyddhau o’r llinell bysgota cyn eu rhoi yng ngofal y RSPCA.