19.04.2024

Hyfforddi Achub o Uchder gan Orsaf Dân Aberystwyth

Cynhaliodd y criw yng Ngorsaf Dân Aberystwyth ymarfer hyfforddi yn Hen Goleg Aberystwyth yn ddiweddar, ddydd Mawrth, Ebrill 16eg.

Gan Lily Evans



Cynhaliodd y criw yng Ngorsaf Dân Aberystwyth ymarfer hyfforddi yn Hen Goleg Aberystwyth yn ddiweddar, ddydd Mawrth, Ebrill 16eg.

Bu’r ymarfer, a chynhaliwyd mewn partneriaeth â’r cwmni adeiladu Andrew Scott Ltd., yn gyfle gwych i aelodau’r criw gyflawni senarios gweithredol realistig o achub o uchder.  Roedd hefyd yn galluogi’r criw i ddefnyddio eu cyfarpar achub rhaff lefel 2 a’r ysgol trofwrdd.

Dywedodd y Rheolwr Gwylfa Liam Hinton-Jones:

“Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal yr ymarferion hyn fel bod criwiau’n barod i ymateb i argyfyngau a deall y peryglon sy’n gysylltiedig â safleoedd adeiladu. Hoffwn ddiolch i Andrew Scott Ltd. am eu cymorth ac rydym yn gobeithio trefnu sesiynau eraill yn y dyfodol agos.”






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf