Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cael ei alw'n rheolaidd i ddigwyddiadau sy'n gofyn am achub o uchder, ac mae gan griwiau nifer o ddulliau i achub pobl ac anifeiliaid o uchder. Fel arfer, mae'r digwyddiadau hyn yn ymwneud ag ysgolion neu beiriannau awyr yn cael eu defnyddio, ond pan nad yw hyn yn bosibl, oherwydd ffactorau megis lleoliadau anghysbell, bydd Diffoddwyr Tân yn defnyddio rhaffau i gyrraedd ac achub cleifion.
Mae galluoedd Achub â Rhaff Lefel Dau yn galluogi criwiau i gael mynediad i leoliadau cyfyng neu anodd a darparu'r gallu i achub o'r brig i'r bôn. Mae'r lefel hon o achub rhaff yn cwmpasu technegau uwch fel angorau aml-bwynt, systemau tynnu cymhleth a systemau llinell uchel.
Mae'r galluoedd hyn ar gael mewn Gorsafoedd Tân sydd wedi'u lleoli'n strategol ledled GTACGC, sef:
- Aberystwyth
- Hwlffordd
- Aberdaugleddau
- Doc Penfro
- Treforys
- Gorllewin Abertawe
- Caerfyrddin
- Rhydaman