15.10.2024

Hyfforddiant Chwilio ac Achub Trefol yn Nociau Abertawe

Yn ddiweddar, bu Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR) yn cynnal ymarfer hyfforddi yn Nociau Abertawe, gyda chefnogaeth garedig Associated British Ports.

Gan Rachel Kestin



Yn ddiweddar, bu Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR) yn cynnal ymarfer hyfforddi yn Nociau Abertawe, gyda chefnogaeth garedig Associated British Ports.

Roedd yr ymarfer hyfforddi yn efelychu ffrwydrad mawr a oedd wedi effeithio ar nifer anhysbys o bobl a sawl adeilad dros ardal eang. 

Yn yr ymarfer, tîm USAR Cymru oedd y cyntaf i gyrraedd y digwyddiad. Bu Cynghorwyr Tactegol USAR yn rheoli ac yn arwain gwahanol asedau o gwmpas dociau Abertawe er mwyn asesu’r sefyllfa, trin pobl â ffug-anafiadau, monitro strwythur adeiladau a blaenoriaethu tasgau yn ôl galluoedd USAR.  Cafodd Cooper, sef ci Chwilio ac Achub USAR Cymru, ei ddefnyddio hefyd i chwilio am bobl mewn adeiladau ac mewn mannau agored ac i nodi’r ardaloedd y dylai Tîm USAR ganolbwyntio arnynt.

Nod yr ymarfer oedd profi gweithdrefnau ASR Lefel 1 ac ASR Lefel 2, ac i roi cyfle i’r technegwyr ddod i arfer â'r gwahanol brosesau a ddefnyddir gan dechnegwyr USAR ar wahanol lefelau.  Defnyddiwyd system farcio clirio cyflym. Cafodd y technegwyr eu gwasgaru o gwmpas y safle, ac fe roddon nhw frîff byr i swyddogion USAR ar y peryglon a oedd yn bresennol, pa ardaloedd oedd yn ddiogel, pa ardaloedd y dylid eu hosgoi, y pwyntiau mynediad, y canfyddiadau arwyddocaol ynghylch sefydlogrwydd strwythurau, nodi rhannau'r corff, ac argymhellion ar sut i gadw tystiolaeth.






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf