Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gwella ei gapasiti o ran dronau yn ddiweddar, trwy hyfforddi saith peilot o bell (RP) ychwanegol.
O 10-14 Mehefin, cynhaliwyd cwrs hyfforddiant dronau gan Aviation Systems Group yng Nghanolfan Hyfforddi Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR) yn Earlswood, gan ymdrin ag ystod eang o bynciau megis deddfau sy'n ymwneud â gweithrediadau dronau, egwyddorion hedfan, gweithdrefnau brys, ffactorau dynol a diogelwch hedfan.
Roedd y cwrs pedwar diwrnod hefyd yn cynnwys asesiad hedfan ymarferol ym Mharc Gwledig Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle roedd angen i’r peilotiaid o bell dan hyfforddiant weithredu dronau o fewn golwg, yn ogystal â dangos yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu trwy weithredu gwahanol weithdrefnau hedfan dronau ar gyfer amrywiaeth o efelychiadau o sefyllfaoedd brys.
Mae'r defnydd o ddronau gan y gwasanaethau brys wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan eu bod yn medru darparu ymwybyddiaeth sefyllfaol amser real a gwell i ymatebwyr brys wrth ymateb i ddigwyddiadau tân ac achub megis tanau gwyllt, tanau strwythurol masnachol a domestig, digwyddiadau ar ddŵr, chwilio am bobl sydd ar goll, strwythurau wedi cwympo a mwy.