26.01.2026

Hyfforddiant Peiriant Ysgol Drofwrdd yng Ngorsaf Dân Aberystwyth

Cynhaliodd Diffoddwyr Tân yng Ngorsaf Dân Aberystwyth sesiwn hyfforddi ar beiriant ysgol drofwrdd ddydd Gwener, Ionawr 23ain, gan wneud defnydd llawn o iard yr orsaf i hogi eu sgiliau gweithredol hanfodol.

Gan Steffan John



Cynhaliodd Diffoddwyr Tân yng Ngorsaf Dân Aberystwyth sesiwn hyfforddi ar beiriant ysgol drofwrdd ddydd Gwener, Ionawr 23ain, gan wneud defnydd llawn o iard yr orsaf i hogi eu sgiliau gweithredol hanfodol.

Daeth yr ymarfer â Diffoddwyr Tân Llawn Amser ac Ar Alwad ynghyd, gan gynnig cyfle i gryfhau gwaith tîm a sicrhau safonau gweithredol cyson ar draws yr orsaf.  Fel rhan o'r hyfforddiant, roedd Diffoddwyr Tân yn gallu gwella a mireinio eu sgiliau a'u gweithdrefnau gweithredol, yn ogystal ag ymarfer sut i integreiddio'r peiriant ysgol drofwrdd (TL) ag injans tân eraill.  Bu’r ymarfer hefyd yn gyfle i brofi cyfathrebiadau radio rhwng pob Diffoddwr Tân, gan gynnwys y rhai rhwng y Rheolwr Gwylfa ym mhodiwm rheoli’r peiriant a’r Diffoddwr Tân yn y cawell achub.

Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) dri pheiriant TL, wedi'u lleoli yng Ngorsafoedd Tân Aberystwyth, Hwlffordd a Threforys.

Mae'r TL yn beiriant tân awyr arbenigol gydag uchder achub mwyaf o 32 metr.  Mae ei ysgol a’i phlatfform telesgopig, sy’n cylchdroi 360 gradd, yn caniatáu i Ddiffoddwyr Tân ddarparu dŵr o uwchben, cyrraedd ac achub pobl sy’n sownd hyd at uchderau o tua 10-12 llawr a chael mantais uchel i arsylwi ac asesu digwyddiadau.  Gall pibellau'r peiriant bwmpio hyd at 2,400 litr o ddŵr y funud.








Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol