16.09.2024

Mae Adolygiad Diwylliannol Annibynnol Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru eisiau clywed gennych chi.

Ydych chi’n ddiffoddwr tân ar-alwad sy’n gweithio i naill ai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru neu Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru? Neu ydych chi wedi gweithio i’r naill wasanaeth ers Mehefin 1, 2021?

Gan Aled Lewis

Mae'r arolwg ar-lein a chyflwyniadau ysgrifenedig ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru dal i fod ar agor.

Mae’r Adolygiad yn annog unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf i gymryd rhan – ond rydym am glywed gan fwy o ddiffoddwyr tân ar alwad yn enwedig.

Bydd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cyfweliadau a grwpiau ffocws yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn agor ddiwedd mis Medi.

Mae datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cyfweliadau a grwpiau ffocws yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bellach wedi cau.

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynd ati ar y cyd i benodi Crest Advisory i hwyluso adolygiad diwylliannol annibynnol.

Cynhelir yr Adolygiad yn annibynnol o’r ddau wasanaeth tân ac achub gan Crest Advisory.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen gwefan yr Adolygiad: https://www.crestadvisory.com/adolygiad-diwylliannol-annibynnol.Mae’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf