22.09.2025

Mae Drysau Tân yn eich cadw'n ddiogel!

Mae Wythnos Diogelwch Drysau Tân 22–26 Medi yn dechrau heddiw, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth o'r rhan holl bwysig y mae drysau tân yn ei chwarae wrth achub bywydau ac amddiffyn eiddo os bydd tân.

Gan Rachel Kestin



Mae Wythnos Diogelwch Drysau Tân 22–26 Medi yn dechrau heddiw, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth o'r rhan holl bwysig y mae drysau tân yn ei chwarae wrth achub bywydau ac amddiffyn eiddo os bydd tân.

Mae drysau tân yn hanfodol o ran atal lledaeniad tân a mwg, a dylai fod yn gyfrifoldeb ar bawb i wneud yn siŵr eu bod yn addas i'r diben. Ydych chi'n amau bod drws tân diffygiol yn yr adeilad rydych chi'n byw ynddo, yn gweithio ynddo, neu'n ymweld ag ef? Peidiwch ag anwybyddu’r peth – rhowch wybod i’r sawl sy’n rheoli’r adeilad neu'n berchen arno. Gallech achub bywyd y diwrnod hwnnw!

Er mwyn helpu i gadw golwg am ddrysau diffygiol a drysau sydd wedi’u gosod yn wael, cofiwch ddefnyddio'r gwiriad drysau tân 5 cam:

  1. Ardystiad – Chwiliwch am label, plwg neu nod tebyg i ddangos bod y drws tân wedi'i ardystio a dilynwch y cyfarwyddiadau.
  2. Agoriadau - Bydd addasu drysau drwy greu agoriadau ar gyfer gwydr neu griliau trosglwyddo aer yn golygu na fydd eu hardystiad yn ddilys mwyach.
  3. Bylchau a seliau – gwiriwch fod y bwlch o amgylch ffrâm y drws yn gyson ac o gwmpas 3 i 4mm. Sicrhewch fod seliau wedi'u gosod ar frig ac ochr y drws.
  4. Dyfeisiau cau – Gwiriwch fod y caewr yn cau'r drws ar y glicied o unrhyw safle – gwiriwch 75mm o'r safle caeedig.
  5. Gweithrediad - Gwnewch yn siŵr bod y drws yn cau'n iawn o amgylch pob rhan o'r ffrâm.

Dywedodd yr Arolygydd Diogelwch Tân, y Rheolwr Gorsaf Rhys Mullan:

"Rydyn ni ein hunain wedi gweld sut y gall drws tân syml sydd ar gau olygu’r gwahaniaeth rhwng mân ddigwyddiad a thrasiedi fawr. Yn ein bywydau bob dydd rydyn ni'n cerdded heibio neu trwy ddrysau tân heb feddwl eilwaith. Ond nid dim ond rhan arall o'r adeilad ydyn nhw – maen nhw'n rhwystrau achub bywyd sy'n arafu lledaeniad tân a mwg, gan roi amser hanfodol i bobl ddianc. Yn rhy aml, rydyn ni'n dod o hyd iddyn nhw’n cael eu dal ar agor neu heb gael eu cynnal a’u cadw’n iawn. Mae'n hanfodol bod pawb yn deall: mae drws tân sydd ar gau yn achub bywydau. I fusnesau, gallant gael effaith fawr ar yr amser a gymer i adfer ar ôl tân."



I gael rhagor o wybodaeth am Ddiogelwch Drysau Tân, ewch i Fire Door Campaign | Fire Door Safety Week a chadwch olwg am wybodaeth hanfodol am Ddiogelwch Drysau Tân trwy gydol yr wythnos ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf