01.10.2024

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn awyddus i’ch helpu chi i fod yn ddiogel yr hydref hwn.

Rydyn ni am i chi a'ch teulu fwynhau tywydd ffres yr Hydref wrth osgoi rhai o'r risgiau posibl a ddaw i ganlyn y tymor.

Gan Rachel Kestin



Y mis hwn rydym yn lansio ein hymgyrch Diogelwch yr Hydref. Wrth i'r dail ddechrau newid lliw a chwympo o goed, fe'n hatgoffir y bydd y nosweithiau'n dechrau tynnu i mewn yn gyflymach a bydd y tymheredd yn dechrau gostwng. Rydyn ni am i chi a'ch teulu fwynhau tywydd ffres yr Hydref wrth osgoi rhai o'r risgiau posibl a ddaw i ganlyn y tymor.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau treulio mwy o amser yn eu cartrefi, gan gadw'n gynnes trwy ddefnyddio tanau agored, llosgyddion coed a gwresogyddion ond mae peryglon i bob un.

Cofiwch drefnu eich gwasanaeth blynyddol ar eich system gwres canolog ac os oes gennych dân agored neu stôf losgi coed yn eich cartref, mae'n bwysig cynnal ffliwiau a simneiau yn iawn. Gall cadw eich larymau mwg a charbon monocsid mewn cyflwr da helpu i'ch amddiffyn chi a'ch teulu rhag tân. Cofiwch gymryd golwg ar larymau mwg a charbon monocsid yn rheolaidd trwy wasgu'r botwm prawf nes bod y larwm yn gwneud sŵn. Os ydych chi'n defnyddio gwresogyddion cludadwy, mae'n hanfodol eich bod chi'n darllen y cyfarwyddiadau ymlaen llaw a'u cadw'n ddigon pell oddi wrth eich llenni a'ch dodrefn. Os ydych chi'n mynd i ddefnyddio cannwyll neu losgydd olew, gwnewch yn siŵr nad ydych chi byth yn ei adael yn llosgi os ydych chi'n mynd allan neu'n mynd i gysgu a chadwch eich canhwyllau yn ddigon pell oddi wrth anifeiliaid anwes a phlant.

Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Risg Gymunedol: 

“Rydym eisiau i'n cymuned ystyried ein cyngor diogelwch ar gyfer y misoedd nesaf. Mae newid yn y tymhorau’n golygu ein bod yn debygol o wneud pethau ychydig yn wahanol yn ein cartrefi ac mae hynny’n newid lefel y risg i bobl ac eiddo. Rydym am sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i dynnu sylw at y peryglon allech chi eu hwynebu a sut y gallwch leihau'r risgiau hynny trwy gymryd rhai camau syml."



Rydym yn eich annog i ofyn am ymweliad Diogel ac Iach am ddim i chi'ch hun neu'ch anwyliaid yr Hydref hwn. Gallwch roi galwad inni nawr i archebu ymweliad Diogel ac Iach am ddim ar 0800 169 1234 neu llenwch ein ffurflen ar-lein yma.

Am fwy o wybodaeth, cyngor neu arweiniad ewch i'n Hymgyrch Diogelwch yr Hydref ar ein gwefan.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol am ragor o negeseuon diogelwch:

X - @ mawwfire
Facebook - @mawwfire
Instagram -mawwfire_rescue

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf