Yn ogystal â pharatoi'n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer Ras Fawr y Byd fis nesaf, mae Rebecca hefyd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn codi arian ar gyfer ei her trwy dudalen Just Giving. Mae’r dudalen Just Giving yn dal i dderbyn rhoddion yn y cyfnod cyn yr her, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei roi i elusen enwebedig yr AFA, sef Ymddiriedolaeth y Brenin.
Bydd Rebecca yn gadael am Wolf's Fang, Antarctica ar 15 Tachwedd, ac yno y bydd hi'n dechrau'r cyntaf o'r saith marathon. Y nesaf fydd Cape Town, De Affrica, ac yna Perth, Awstralia. Bydd y pedwerydd a'r pumed marathon yn cael eu cynnal ar gyrsiau ac iddynt sawl cylch ar ochrau Asiaidd ac Ewropeaidd Pont Bosphorus, Istanbul. Yn dilyn hyn, bydd Rebecca yn mynd i Cartagena, De America cyn gorffen yn Miami, Gogledd America ar gyfer ei marathon olaf.
Mae pawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dymuno pob lwc i Rebecca!