26.09.2025

Mwy Na Dim Ond Tanau 2025

Dydd Iau, Medi 25, cynhaliodd Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei seremoni wobrwyo flynyddol, Mwy Na Dim Ond Tanau, ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Gan Emma Dyer


Ddydd Iau, Medi 25, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei seremoni wobrwyo flynyddol, Mwy na Dim ond Tanau, ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Cafodd y noson ei chyflwyno gan y darlledwr hyfryd Eleri Sion sy'n fwyaf adnabyddus am ei chynhesrwydd a'i hegni ar BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac S4C.




Roedd y noson yn gyfle arbennig i ddiolch a chydnabod yr ymdrechion rhyfeddol, y gwaith caled ac ymroddiad staff y Gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf.

Roedd y seremoni'n cyflwyno cyfanswm o 10 categori o wobrau a oedd yn cynnwys enwebeion a ddewiswyd gan eu cydweithwyr. Roedd yn cynnwys gwobr ar gyfer Hyrwyddwr Cymunedol, y Gorau am Godi Arian a Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Prif Swyddog Tân, i enwi ond rhai.

Yn ystod y seremoni, dywedodd y PST Thomas: 

"Dathlu a chydnabod yw pwrpas heno — cyfle i gydnabod ymroddiad, dewrder, a gwasanaeth anhygoel ein timau a'n hunigolion sy'n mynd y filltir ychwanegol i ddiogelu ein cymunedau. O danau gwyllt i weithrediadau achub, i fentrau diogelwch cymunedol - mae gwaith ein Gwasanaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddiffodd tanau ac rydym yma i gydnabod y genhadaeth ehangach honno heno.”



Dyma enillwyr y noson:

Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol

Aeth y wobr gyntaf ar gyfer Hyrwyddwr Cymunedol i'r Rheolwr Criw Steve Richards am ei ymateb dewr i argyfwng meddygol ger ei gartref ac ers hynny mae wedi hyrwyddo ymwybyddiaeth rheoli gwaedu, gan osod pecynnau rheoli gwaedu yng Ngorsaf Dân Llanelli a Neuadd y Seiri Rhyddion.

Hefyd ar y rhestr fer roedd y Diffoddwr Tân James Boyle o Orsaf Dân Gorllewin Abertawe a'r Diffoddwr Tân Douglas Preece o Orsaf Dân Llanandras.




Gwobr y Gorau am Godi Arian

Aeth y Wobr y Gorau am Godi Arian i'r criw yng ngorsaf dân Llanandras am eu hymrwymiad eithriadol i godi arian – gan godi dros £6,700 yn 2024 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân a dros £3,000 yn 2025 ar gyfer elusennau atal hunanladdiad lleol.

Hefyd ar y rhestr fer roedd y Diffoddwr Tân Rhys Fitzgerald o Orsaf Dân Cydweli a Chriw’r Wylfa Las o Orsaf Dân Castell-nedd.




Gwobr Gwaith Tîm Rhagorol

Enillodd y Tîm Pensiynau'r categori hwn, gan gydnabod eu gwydnwch a'u hymroddiad wrth lywio newidiadau cymhleth i bensiynau. Maen nhw’n dîm bach sydd wedi cefnogi staff mewn modd clir a chyda gofal drwy ddegawdau o ddeddfwriaeth.

Hefyd ar y rhestr fer roedd Tîm Hyfforddi a Darparu VAWDASV, y Tîm Hydrant a'r Tîm Addysg.




Gwobr Arwr Tawel

Aeth pedwaredd wobr y noson i'r Swyddog Ymateb Meddygol Steven Jarvis sydd, y tu ôl i'r llenni, wedi mynd ati i ehangu galluoedd ymateb meddygol y gwasanaeth i 39 gorsaf, gan gyfrannu at 51 achos llwyddiannus o Ddychwelyd Cylchrediad Digymell y Gwaed y llynedd.

Hefyd ar y rhestr fer roedd y Rheolwr Gorsaf, Claire Powis o'r tîm Rheoli Tân ar y Cyd, yr Ymarferydd Arweiniol Diogelwch Tân Cymunedol Danny Lewis a'r Rheolwr Gwylfa Kevin Bassett.




Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth

Aeth y Wobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth i dri unigolyn haeddiannol – Rheolwr Gorsaf Stephen Griffiths, Cydlynydd SHE Assure Ffion James a'r Rheolwr Gwylfa Eifion Rees.




Gwobr Hyrwyddwr Iechyd a Lles

Aeth y wobr ar gyfer yr Hyrwyddwr Iechyd a Lles i Orsaf Dân Hwlffordd am eu Gardd Les. Trawsnewidiodd eu tîm ddarn o laswellt oedd wedi'i esgeuluso yn ardd les fywiog – gan greu gofod i ymlacio, myfyrio a chysylltu, gan helpu i leihau straen a meithrin cyfeillgarwch ar draws Gorsaf Hwlffordd a phencadlys Sir Benfro.

Roedd y Tîm Podlediad Iechyd a Lles a’r Rheolwr Gorsaf, Simon Pearson hefyd wedi’u henwebu.




Gwobr Rhagoriaeth Rhanbarth y Gorllewin

Aeth y wobr am Ragoriaeth Rhanbarth y Gorllewin i Orsaf Dân Cydweli am eu gwaith tîm rhagorol, eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad i'w cymuned.

Roedd Gorsaf Dân Llandeilo a Gorsaf Dân Doc Penfro hefyd wedi’u henwebu.




Gwobr Rhagoriaeth Rhanbarth y De

Aeth y wobr am Ragoriaeth Rhanbarth y De i Orsaf Dân Blaendulais sydd wedi dangos cefnogaeth barhaus i'w cymuned gyda dau ddegawd o gefnogaeth i'r rhaglen Cadetiaid Tân.

Roedd criw Gwylfa Wen Gorsaf Dân Port Talbot a Gorsaf Dân Dyffryn Aman hefyd wedi’u henwebu.




Gwobr Rhagoriaeth Rhanbarth y Gogledd

Aeth y wobr am Ragoriaeth Rhanbarth y Gogledd i Orsaf Dân Tregaron i gydnabod eu proffesiynoldeb, eu tosturi a'u hysbryd cymunedol cryf. Roedd eu hymateb i dân gwyllt Ystâd yr Hafod dros nos a'u gofal yn ystod ataliad ar y galon yn ddiweddar yn adlewyrchu gwasanaeth anhunanol y criw a'u gwerthoedd dwfn.

Roedd Gorsaf Dân Crucywel a Gorsaf Dân Machynlleth hefyd wedi’u henwebu.




Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Prif Swyddog Tân

Categori olaf y noson oedd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Prif Swyddog Tân Mae'r wobr hon yn dyst i'r unigolion a'r timau anhygoel sydd, trwy eu dewrder eithriadol, eu hymroddiad diflino, a'u hymrwymiad diwyro, nid yn unig yn gwella ein Gwasanaeth ond hefyd yn ein cynrychioli'n gadarnhaol yn y gymuned.

Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU

Mae Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar alwad 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ac yn barod i ymateb i drychinebau dyngarol ledled y byd. Er 1992, mae'r tîm wedi cael ei anfon i ddigwyddiadau mawr mewn gwledydd gan gynnwys Twrci, Haiti, Nepal, ac yn fwyaf diweddar, Moroco, yn dilyn daeargryn dinistriol 2023 yn Nhalaith Al Haouz.




Gorsaf Dân Dyffryn Aman

Wrth wynebu argyfwng na allai neb ei ddychmygu, dangosodd criw Gorsaf Dân Dyffryn Aman ddewrder, tosturi a phroffesiynoldeb eithriadol. Wrth ymateb i ataliad ar y galon yn ystod genedigaeth, fe wnaethant gefnogi criwiau o'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i berfformio toriad Cesaraidd brys yn y fan a'r lle. Helpodd eu gweithredoedd tawel a phenderfynol i achub bywyd plentyn newydd-anedig.

Mae Rheolwr yr Orsaf, Bleddyn Rees, hefyd yn cael ei gydnabod am ei arweinyddiaeth eithriadol a'r gefnogaeth ddiwyro a roddodd i'w griw yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.




Wrth i'r noson ddod i ben, roedd yn amlwg bod Mwy Na Dim Ond Tanau yn llawer mwy na seremoni wobrwyo - mae'n deyrnged o’r galon i'r bobl sy'n gwneud Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn wirioneddol arbennig. O weithredoedd o ddewrder i eiliadau tawel o dosturi, roedd pob stori a rannwyd yn adlewyrchiad pwerus o ymrwymiad dwfn y Gwasanaeth i'w gymunedau. Mae ein diolch diffuant i'r holl enwebeion, enillwyr a'r rhai sy'n eu cefnogi - mae eich ymroddiad yn parhau i'n hysbrydoli ni i gyd.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf