18.06.2025

Nid dim ond Glaswellt!

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i chwarae eich rhan wrth ddiogelu'r amgylchedd a lleihau nifer ac effaith tanau gwyllt ledled Cymru.

Gan Rachel Kestin



Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i chwarae eich rhan wrth ddiogelu'r amgylchedd a lleihau nifer ac effaith tanau gwyllt ledled Cymru.

Ar ôl cyfnod hynod brysur o ran tanau glaswellt, lle mae Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru wedi gweld cynnydd o 407% yn nifer y tanau gwyllt rhwng mis Mawrth ac Ebrill 2025 o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich atgoffa am y neges #DoethiDanauGwyllt yr haf hwn. 



Dywedodd Andrew Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru:

"Wrth i'r tymhorau newid, â'r addewid o dywydd cynhesach ar y gorwel, dyma'r amser delfrydol i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, trefnu teithiau ac archebu eich gwyliau, mynd â'ch teulu ar drip gwersylla, neu fwynhau eich ardal leol.

“Rydym yn annog pob aelod o'n cymunedau i barchu cefn gwlad ac i gyfrannu at warchod ein hamgylchedd a diogelu ein cymunedau.

"Bob blwyddyn, mae tân yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.  Rydym eisiau gweithio gyda'n cymunedau i greu cefn gwlad iachach a mwy gwydn ac i ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer y dyfodol. Mae gweithio gyda'n cymunedau a rhannu ein gwybodaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r hyn y gallwn ei wneud i gyfyngu ar y difrod y mae tanau damweiniol yn ei achosi i'n hamgylchedd."



Gall misoedd y Gwanwyn a'r Haf ddod â llu o beryglon os nad ydych chi'n dilyn cyngor diogelwch ymarferol a chywir sy'n briodol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb i fod yn ddoeth i danau gwyllt ac ymrwymo i ragofalon syml ac ychydig o ofal ychwanegol, er mwyn sicrhau y gallwn barhau i fwynhau ein cefn gwlad hardd a chadw ein cymunedau'n ddiogel rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt.

Yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn, gall glaswellt a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy'n golygu, os ydych chi'n cynnau tân yn yr awyr agored yn fwriadol neu'n ddamweiniol, bydd yn lledaenu'n gyflym iawn, gan ddinistrio popeth yn ei lwybr. 

Er bod difrod i dir ac eiddo yn uniongyrchol ac yn weladwy, gall canlyniadau tanau gwyllt ymestyn i iechyd y cyhoedd, sefydlogrwydd economaidd, a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan achosi effeithiau parhaol a sylweddol ar les a ffyniant cymunedol.



Ychwanegodd Andrew Wright:

"Wrth i danau gwyllt ddod yn realiti cynyddol ddifrifol, mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael nid yn unig â'r bygythiadau uniongyrchol ond hefyd y goblygiadau hirdymor i'n hiechyd, ein heconomi a'n hamgylchedd.

"Mae ansawdd aer yn cael ei beryglu'n ddifrifol yn ystod ac ar ôl tanau gwyllt. Gall mwg deithio cannoedd o filltiroedd, gan effeithio ar gymunedau ymhell o'r fflamau. Er bod partneriaid ar Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gweithio'n ddiflino i ddeall yn well effaith tanau gwyllt ar iechyd, yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw y gall poblogaethau agored i niwed fod mewn perygl arbennig, gyda mwg tanau gwyllt yn effeithio ar eich anadl, yn achosi llid i’ch croen a'ch llygaid, ac yn gallu arwain at boenau yn y frest.

"Mae canlyniadau economaidd tanau gwyllt hefyd yn aml yn cael eu camddeall ac, mewn llawer o achosion, maent yn ddwys ac yn hirhoedlog. Yn ogystal â chostau diffodd tân uniongyrchol, mae cymunedau’n wynebu effeithiau estynedig ar dwristiaeth, amaethyddiaeth, a busnesau lleol.

"Gall tanau gwyllt hefyd darfu ar ecosystemau, achosi colli bioamrywiaeth a newid cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau di-ri. Gall dinistrio fflora a ffawna arwain at fwy o erydiad pridd, problemau ansawdd dŵr, a gwaethygu effeithiau newid hinsawdd. Ar ben hynny, mae'r carbon sy’n cael ei ryddhau yn ystod tanau gwyllt yn cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan ddwysáu cylch risg hinsawdd.

"Yn sgil yr heriau aruthrol hyn, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn cynyddu’r ymdrechion i gryfhau gwydnwch cymunedol. Mae rhaglenni sy'n canolbwyntio ar baratoi ar gyfer tân, yn ogystal ag addysg a chefnogaeth, yn cael eu cyflwyno i gynorthwyo cymunedau i adfer. Mae dulliau arloesol o reoli tir ac adfer ecolegol hefyd yn cael eu harchwilio i liniaru risgiau tân yn y dyfodol a gwella diogelwch cymunedol.

“Ond rydyn ni’n gwybod bod mwy y gallwn ni ei wneud, ac rydyn ni’n annog llunwyr polisi, arweinwyr cymunedol, ac unigolion i ddod at ei gilydd i chwarae eu rhan wrth fuddsoddi mewn mesurau ataliol a’u cefnogi, yn ogystal â’r cymunedau yr effeithir arnynt, ac eirioli dros arferion cynaliadwy.”



Am ragor o wybodaeth am waith Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a sut i helpu neu gymryd rhan mewn ymdrechion i baratoi ar gyfer tanau gwyllt ac adfer yn eu sgil, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn #DoethiDanauGwyllt

Cofiwch - Os ydych allan yn mwynhau cefn gwlad a’ch bod chi’n gweld unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf