11.10.2024

Noson Agored Llwyddiannus Gorsaf Dân Llandrindod

Ddydd Mawrth, 8 Hydref, croesawodd y tîm yng Ngorsaf Dân Llandrindod aelodau o'r gymuned leol i Noson Agored yn yr orsaf.

Gan Steffan John



Ddydd Mawrth, 8 Hydref, croesawodd y tîm yng Ngorsaf Dân Llandrindod aelodau o'r gymuned leol i Noson Agored yn yr orsaf.

Roedd y Noson Agored yn gyfle i aelodau o'r gymuned gael golwg y tu ôl i'r llen ar eu Gorsaf Dân leol a chefnogwyd y noson yn dda, gyda dros 300 o bobl yn bresennol. Hon oedd y Noson Agored gyntaf i gael ei chynnal yng Ngorsaf Dân Llandrindod, a gwblhawyd yn 2012 yn rhan o Ganolfan Gwasanaethau Cyfun Llandrindod ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a’r Llys Ynadon.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i aelodau'r criw rannu gwybodaeth am ddiogelwch gyda'r gymuned, gan gynnwys diogelwch tân ar ffermydd, yn ogystal ag arddangos eu sgiliau a'u galluoedd trwy gyfrwng amrywiaeth o arddangosiadau, a oedd yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, tân sosban sglodion ac offer dŵr i ddiffodd tanau. Cafwyd cefnogaeth gan sefydliadau a gwasanaethau brys eraill i'r digwyddiad hefyd, gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Heddlu Dyfed-Powys yn bresennol, â’r heddlu’n cynnal arddangosiad trin cŵn.

Cefnogwyd y Noson Agored hefyd gan ganolfan cymorth canser Bracken a Thîm Gwasanaethau Plant a Maethu Cyngor Sir Powys, a fu’n darparu gweithgareddau i deuluoedd a phlant. 

Wrth sôn am Noson Agored yr Orsaf Dân, dywedodd Rheolwr yr Orsaf, Martyn Field:

"Roedd hon yn noson wych gyda chefnogaeth a phresenoldeb da gan y gymuned leol i arddangos y gwaith mae’r criw lleol yn ei wneud ac i hyrwyddo mentrau diogelwch cymunedol a recriwtio yn ogystal â chydweithio â'n hasiantaethau partner. Hoffwn longyfarch y criw am gynnal digwyddiad mor ddifyr!”

Martyn Field - Rheolwr Gorsaf Llandrindod


Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau GTACGC, sy'n cynnwys Dyddiau Agored mewn Gorsafoedd Tân a Digwyddiadau Golchi Ceir, yma.






A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf