19.06.2025

Parêd Cwblhau Hyfforddiant Cadetiaid Blaendulais

Ddydd Mawrth, 17 Mehefin cynhaliwyd Parêd Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân Blaendulais i ddathlu llwyddiannau’r grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mawrth, 17 Mehefin cynhaliwyd Parêd Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân Blaendulais i ddathlu llwyddiannau’r grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Mae’r Cadetiaid Tân yn sefydliad ieuenctid cenedlaethol mewn lifrai sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ac sy'n cael ei redeg gan Wasanaethau Tân ac Achub unigol ledled y DU.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae'r bobl ifanc ymroddedig hyn wedi dysgu ystod eang o sgiliau a thechnegau gwerthfawr trwy hyfforddiant ar faes ymarfer yr Orsaf Dân ac addysg yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r Cadetiaid wedi ennill cymhwyster Cadetiaid Tân a chyflwynwyd tystysgrif cyflawniad iddynt gan y  Y Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM.

Roedd y dathliad hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol i Orsaf Dân Blaendulais, gan mai hon oedd eu hugeinfed flwyddyn o gynnal y rhaglen diffoddwyr tân ifanc, sydd ers hynny wedi datblygu i fod y Cadetiaid Tân. Mae'r ymrwymiad hirsefydlog hwn yn adlewyrchu faint mae'r rhaglen yn ei olygu i'r gymuned. Diolch i'r holl hyfforddwyr sydd wedi rhoi eu hamser a'u hymroddiad dros y blynyddoedd.

Dywedodd Karen Mayze, y Cydgysylltydd Cadetiaid Tân: 

“Llongyfarchiadau calonnog i Gadetiaid Tân Blaendulais, a gynhaliodd arddangosfa ragorol yn eu seremoni cwblhau hyfforddiant. Fe wnaethon nhw arddangos nid yn unig eu hyfforddiant ymarferol ond hefyd eu penderfyniad, gwydnwch a gwaith tîm. Mae'r grŵp gwych hwn o bobl ifanc wedi datblygu toreth o sgiliau gwerthfawr newydd yn ystod eu hamser gyda ni. Cafodd eu gwaith caled a'u hymrwymiad eu cydnabod a'u gwobrwyo o flaen ffrindiau balch, aelodau o'r teulu, a phwysigion lleol.“





Gwnewch gais i ddod yn un o’r Cadetiaid Tân Heddiw!

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bellach yn recriwtio Cadetiaid Tân mewn Gorsafoedd Tân ar draws ardal y Gwasanaeth.

Mae'r rhaglen Cadetiaid Tân yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am y Gwasanaeth Tân ac Achub. Bydd y Cadetiaid hefyd yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau bywyd pwysig a fydd yn ysbrydoli dewisiadau cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol.

Ydych chi rhwng 13 ac 16 oed ac yn barod am her newydd — neu ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai?
Mae ein cynllun Cadetiaid Tân yn ffordd berffaith o ddatblygu sgiliau newydd cyffrous, magu hyder, a chael golwg unigryw ac ymarferol ar fywyd yn y gwasanaethau brys!

Am ragor o wybodaeth ac i ddysgu sut i wneud cais, ewch i - Cadetiaid Tân

Erthygl Flaenorol