13.06.2025

Parêd Cwblhau Hyfforddiant Cadetiaid Dyffryn Aman

Ddydd Iau, 12 Mehefin cynhaliwyd Parêd Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân Dyffryn Aman i ddathlu llwyddiannau’r grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Gan Rachel Kestin



Ddydd Iau, 12 Mehefin cynhaliwyd Parêd Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân Dyffryn Aman i ddathlu llwyddiannau’r grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Mae’r Cadetiaid Tân yn sefydliad ieuenctid cenedlaethol mewn lifrai sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ac sy'n cael ei redeg gan Wasanaethau Tân ac Achub unigol ledled y DU.

Nod y Rhaglen Cadetiaid Tân yw creu cymunedau mwy diogel trwy ddatblygu gwybodaeth pobl ifanc am y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r sgiliau cysylltiedig. Mae’n helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw'n ddiogel rhag tân mewn amgylchedd hwyliog a diogel.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae'r bobl ifanc ymroddedig hyn wedi dysgu ystod eang o sgiliau a thechnegau gwerthfawr trwy hyfforddiant ar faes ymarfer yr Orsaf Dân ac addysg yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r Cadetiaid wedi ennill cymhwyster Cadetiaid Tân a chyflwynwyd tystysgrif cyflawniad iddynt gan y Rheolwr Ardal Geraint Thomas. 

  

Dywedodd Karen Mayze, y Cydgysylltydd Cadetiaid Tân: 

"Roedd yn garreg filltir falch i Gadetiaid Tân Dyffryn Aman wrth iddynt ddod i ddiwedd swyddogol eu hyfforddiant ar ôl llwyddo i gwblhau eu rhaglen Cadetiaid Tân dwy flynedd o hyd. Trwy gydol eu taith maent wedi dangos ymrwymiad anhygoel, wedi tyfu mewn hyder, ac maent yn cymryd rhan weithredol yn eu cymuned. Dylent fod yn hynod falch o'u cyflawniadau. Da iawn chi, Gadetiaid Dyffryn Aman. Hefyd, diolch enfawr i'r holl hyfforddwyr sydd wedi cefnogi'r bobl ifanc hyn."



Gwnewch gais i ddod yn un o’r Cadetiaid Tân Heddiw!

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bellach yn recriwtio Cadetiaid Tân mewn Gorsafoedd Tân ar draws ardal y Gwasanaeth.

Mae'r rhaglen Cadetiaid Tân yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am y Gwasanaeth Tân ac Achub. Bydd y Cadetiaid hefyd yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau bywyd pwysig a fydd yn ysbrydoli dewisiadau cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol.

Ydych chi rhwng 13 ac 16 oed ac yn barod am her newydd — neu ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai?
Mae ein cynllun Cadetiaid Tân yn ffordd berffaith o ddatblygu sgiliau newydd cyffrous, magu hyder, a chael golwg unigryw ac ymarferol ar fywyd yn y gwasanaethau brys!

Am ragor o wybodaeth ac i ddysgu sut i wneud cais, ewch i - Cadetiaid Tân

 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf