02.09.2025

Peiriant Diffodd Tân Hanesyddol yn cael ei Arddangos yn Barhaol

Ddydd Llun, 11 Awst, cynhaliwyd cyflwyniad ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yng Nghaerfyrddin, i ddadorchuddio pwmp diffodd tân oedd yn cael ei weithio â dwylo a gafodd ei adfer yn ddiweddar.

Gan Steffan John



Ddydd Llun, 11 Awst, cynhaliwyd cyflwyniad ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yng Nghaerfyrddin, i ddadorchuddio pwmp diffodd tân oedd yn cael ei weithio â dwylo a gafodd ei adfer yn ddiweddar.

Dros y misoedd diwethaf, mae gwaith wedi'i wneud i adfer hen bwmp diffodd tân Merryweather & Sons, ar ôl iddo gael ei storio mewn adeilad tu allan am bron i 40 mlynedd.

Hanes

Cafodd y pwmp llaw pedwar person Merryweather ei gomisiynu yn 1906 gan yr Arglwydd Drummond o Blasty Rhydodyn, ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.  Cafodd y pwmp ei brynu yn dilyn tân difrifol mewn sied wair ar Ystâd Edwinsford y flwyddyn flaenorol.

Yn ystod y nos ar 22 Mawrth 1907 fe dynnwyd sylw’r teulu Drummond at dân a oedd wedi cynnau yn un o ystafelloedd gwely’r plasty.  Cafodd y pwmp ei roi ar waith yn syth a chafodd y tân ei ddiffodd o fewn yr awr, gan atal difrod pellach i'r plasty.








O'r chwith i'r dde: Donwy Williams, Arwel Fowler, Eric Barnes a Dyfrig Williams gyda'r pwmp Edwinsford.



Adfer

Yn 1986, fe brynwyd y pwmp Merryweather gan rai o swyddogion Brigâd Dân Dyfed sef Eric Barnes, Arwel Fowler, Donwy Williams a Dyfrig Williams. Ar ôl ei brynu, arhosodd y pwmp mewn adeilad tu allan a oedd yn eiddo i un o'r swyddogion oedd wedi ymddeol am bron i 40 mlynedd, nes i'r cyn-swyddogion gysylltu â GTACGC i holi a fyddai'r Gwasanaeth â diddordeb mewn arddangos y pwmp.

Roedd y pwmp mewn cyflwr gwael oherwydd ei oed. Roedd y paent wedi dirywio a’r gwaith pres wedi colli ei liw. Roedd angen llawer iawn o waith adfer arno cyn iddo gael ei arddangos ym Mhencadlys GTACGC. 







Gwnaed y gwaith adfer gan gyn-swyddog GTACGC sef Rob Rayner, oedd â diddordeb mewn adfer ac arddangos hen gerbydau.  Cymerodd y broses adfer tua phedwar mis i'w gwblhau ac roedd yn cynnwys adfer rhannau o’r pwmp a stripio'r paent i ddangos y pwmp ar ei orau.  Roedd angen preimio ac ailbeintio'r darnau metel. Hefyd, cafodd y rhannau pres eu sgleinio ac fe ailbeintiwyd y darnau mewnol ac allanol heb sôn am adnewyddu’r darnau pren. 

Yn olaf, peintiwyd corff y pwmp tu mewn a thu allan yn broffesiynol a chomisiynwyd ysgrifennwr arwyddion i ysgrifennu mewn llythrennau cain arno 'Edwinsford 1906' ar draws blaen y pwmp, ynghyd â logo Merryweather & Sons.





Y Dyfodol

Fel mae'r lluniau o'r gwaith adfer yn ei ddangos, mae'r pwmp wedi'i adfer fel ei fod yn bwmp sy’n gweithio ac mae bellach yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Gynadledda GTACGC, lle bydd yn cael ei arddangos yn barhaol fel arddangosyn hanesyddol.  Mae'r pwmp yn rhan bwysig o hanes cymdeithasol ardal Sir Gaerfyrddin, ac mae'r Gwasanaeth yn ddiolchgar iawn i'r cyn-gydweithwyr sef Eric Barnes, Arwel Fowler, Donwy Williams, Dyfrig Williams am fenthyg y pwmp i'r Gwasanaeth.  Mae'r Gwasanaeth yn hynod ddiolchgar i Rob Rayner am ei ymrwymiad a'i ymroddiad wrth adfer y pwmp ac Adran Fflyd, Peirianneg a Logisteg y Gwasanaeth am eu cymorth yn ystod y gwaith o adfer y pwmp.

Yn ôl y Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM:

“Rydym wrth ein bodd yn arddangos Pwmp Edwinsford Merryweather, sydd newydd ei adnewyddu, yn ein Pencadlys yng Nghaerfyrddin. Mae'r pwmp wedi'i adfer gyda gofal arbennig iawn ac mae'n cynrychioli atgof pwysig o'n treftadaeth o diffodd tân yn ardal Sir Gaerfyrddin.”

Hoffai GTACGC hefyd gydnabod cymorth Weston Paintworx a Les Gosling Signs, yn ystod y gwaith o beintio ac ysgrifennu arwyddion. Ar ôl tua 40 mlynedd, mae pwmp llaw Edwinsford Merryweather bellach wedi'i adfer i'w ogoniant blaenorol.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf