18.06.2024

Prif Swyddog Tân yn derbyn Medal Gwasanaeth Tân y Brenin

Mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas, wedi’i gydnabod fel rhan o restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin am ei ymrwymiad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Gan Steffan John

Cyhoeddwyd ar 15 Mehefin 2024, y bydd y Prif Swyddog Tân Thomas yn derbyn Medal Gwasanaeth Tân y Brenin sy’n cael ei ddyfarnu am wasanaeth nodedig.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Thomas;

“Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr anrhydeddus hon. Rwy’n cydnabod bod y wobr hon yn dyst i’r bobl anhygoel sy’n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – ein staff gweithredol sy’n peryglu eu bywydau er mwyn sicrhau diogelwch eraill, ein staff yn yr Ystafell Reoli sy’n derbyn galwadau 999 ac yn trefnu adnoddau, swyddogion atal ac amddiffyn sy'n lleihau risg yn ein cymunedau a'n staff corfforaethol sy'n cefnogi ein swyddogaethau craidd. Rwy'n hynod falch o weithio i sefydliad sydd mor uchel ei barch."

Aeth yn ei flaen drwy ddweud,

"Hoffwn gydnabod fy nheulu hefyd. Maen nhw hefyd wedi gwneud aberth sylweddol i fy nghefnogi i’n bersonol ac yn broffesiynol.”

Gan ddechrau ei yrfa gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub ym 1996, mae Roger wedi treulio ei yrfa gyfan gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan ddod yn Brif Swyddog Tân ym mis Ebrill 2022.  Mae wedi mwynhau gyrfa hynod amrywiol gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, ar ôl gweithio drwy’r rhengoedd o fod yn Ddiffoddwr Tân i nifer o rolau goruchwylio a rolau rheolwr canol, gan gynnwys secondiad i weithio i Lywodraeth Cymru yn 2007/8.  Ymunodd â’r Tîm Arwain Gweithredol fel Rheolwr Ardal yn 2014 ac yna mewn rolau Rheoli gyda’r Frigâd o 2017 ymlaen.

Mae cydnabyddiaeth y Prif Swyddog Tân Thomas ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin nid yn unig yn dathlu ei gyflawniadau personol ond hefyd yn tanlinellu ymdrechion ar y cyd pob aelod o dîm Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Wrth iddo barhau i arwain gyda rhagoriaeth, mae'r Gwasanaeth yn edrych ymlaen at wella diogelwch a lles y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ymhellach.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf